Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Ymarferol

Caiff pob marwolaeth ei hadolygu gan feddyg annibynnol a elwir yn Archwilydd Meddygol. Nid yw'r Archwilydd Meddygol yn cael ei gyflogi gan BIPBC - mae'n gwbl annibynnol.

Bydd yr Archwilydd Meddygol yn craffu ar nodiadau meddygol y claf, yna caiff y wybodaeth ei throsglwyddo i un o swyddogion yr archwilydd meddygol. Bydd swyddog yr archwilydd meddygol yn siarad â'r meddyg a roddodd y driniaeth fwyaf diweddar i'r claf.

Os cytunir ar achos y farwolaeth, bydd swyddog yr archwilydd meddygol yn cysylltu â pherthynas y claf, a bydd yn dweud wrtho beth a gytunwyd fel achos y farwolaeth a hefyd yn gofyn a oedd unrhyw bryderon ynghylch gofal neu driniaeth y claf cyn iddo farw. 

Os nad oes unrhyw bryderon, bydd swyddog yr archwilydd meddygol yn anfon tystysgrif feddygol i Swyddfa'r Cofrestrydd yn yr Ardal lle digwyddodd y farwolaeth. 

Yna, bydd y Cofrestrydd yn ffonio perthynas y claf i drefnu apwyntiad i fynd i'r swyddfa i gofrestru'r farwolaeth. 

Ffôn: 02921 500699 

E-bost: northwales.medicalexaminersoffice@wales.nhs.uk

 

Weithiau bydd angen i'r meddyg hysbysu'r Uwch Grwner am farwolaeth y claf. Bydd y crwner yn penderfynu ar un o'r canlynol: 

  1. Cytuno ag achos y farwolaeth a chyhoeddi Rhan A i'r cofrestrydd
  1. Gorchymyn post mortem i ganfod achos y farwolaeth. 
  1. Agor ac yna gohirio cwest heb bost mortem. 

Os 1, bydd y Cofrestrydd yn ffonio perthynas y claf i drefnu apwyntiad. 

Os - 2 neu 3 bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â pherthynas y claf. 

 

Uwch Grwner - Gogledd Ddwyrain / Canolbarth Cymru 

Adeilad y Sir,
Ffordd Wynnstay,
Rhuthun,
Sir Ddinbych
LL15 1YN

Ffôn: 01824 708047 

E-bost: coroner@denbighshire.gov.uk 

Uwch Grwner - Gogledd Orllewin Cymru 

Stryd y Jêl,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 1SH

01286 672804 

Swyddfa'r Crwner 

Ffôn: 01745 588816 

Mae “Dywedwch Wrthym Unwaith” yn wasanaeth am ddim a gefnogir gan y Swyddfa Gofrestru sy’n cynnig cymorth i deuluoedd i hysbysu adrannau llywodraeth leol a chanolog am farwolaeth eich anwylyd ar adeg anodd. 

Gyda'ch caniatâd chi, bydd Gwasanaethau Cyngor Lleol perthnasol ac Adrannau Llywodraeth Ganolog yn cael gwybod am y brofedigaeth gan gynnwys: Adran Gwaith a Phensiynau, Swyddfa Basbortau, Trwydded Yrru a Phensiynau Rhyfel. 

Bydd angen darparu rhif Yswiriant Gwladol yr un a fu farw (os ydych yn ei wybod) a dogfennau perthnasol (er enghraifft Pasbort, Trwydded Yrru, Tocyn Llyfrgell, Bathodyn Glas). Os nad yw'r holl wybodaeth ar gael adeg eich apwyntiad gyda'r Cofrestrydd, byddant yn egluro sut i gael mynediad at y gwasanaeth o'ch cartref gan ddefnyddio rhif cyfeirnod a gwasanaeth cyswllt ffôn am ddim yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael hyd at 28 diwrnod ar ôl cofrestru'r farwolaeth. 

Dywedwch wrth y Swyddfa Gofrestru eich bod am ddefnyddio’r gwasanaeth “Dywedwch Wrthym Unwaith” pan fyddwch yn ffonio i wneud eich apwyntiad gyda nhw neu fel arall ewch i www.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth. 

 

Mae sawl rheswm pam na all pawb sy'n marw roi organau a meinweoedd. 

Os yw rhoi organau a/neu feinwe yn bosibilrwydd, bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drafod penderfyniad eich anwylyd. 

Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaethau Meinweoedd i gael rhagor o wybodaeth yn uniongyrchol ar 0800 432 0559. 

Gallwch ffonio llinell ffôn 24 awr Cyfeirio Rhoddwyr Organau ar 03000 20 30 40 neu'r Gwasanaethau Meinwe ar 0800 432 0599 am gyngor.