Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Lliniarol Plant

Mae gofal lliniarol i blant yn ymwneud â helpu plant a'u teuluoedd i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Mae'n ofal cefnogol ac eang ei gwmpas i fabanod, plant a phobl ifanc sy'n byw gyda chymhlethdodau meddygol ac ansicrwydd, eu teuluoedd, a'r rhai sy'n bwysig iddynt.

Gall y gofal cynhwysfawr hwn ddechrau ar adeg y diagnosis, neu bryd bynnag y cydnabyddir y gallai cyflwr plentyn arwain at gymhlethdod meddygol, ansicrwydd a bywyd byr.             

I rai plant, gall yr ansicrwydd sy'n dod gyda'u diagnosis olygu y byddant yn cael cefnogaeth dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys wrth iddynt dyfu'n oedolion ifanc a symud i wasanaethau oedolion.

Gall plant a theuluoedd dderbyn cymorth gofal lliniarol lle bynnag y maent yn treulio amser neu’n cael gofal; gartref, yn yr ysbyty, mewn clinigau cymunedol, yn yr ysgol neu mewn hosbis. Mae hyn yn helpu sicrhau bod y gofal yn cyd-fynd â bywyd a dewisiadau'r teulu.   

Rydym ni'n defnyddio dulliau cyfannol, sy'n golygu ein bod yn anelu at fodloni anghenion lles ymarferol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol yn ogystal ag anghenion corfforol a meddygol plant. Mae hyn yn cynnwys cefnogi rhieni, brodyr a chwiorydd a'r teulu ehangach.

Mae gofal lliniarol yn sicrhau y gall plant fwynhau'r un pethau sydd eu hangen ar bob plentyn - cyfeillgarwch, chwarae, hwyl, darganfod, a digwyddiadau bob dydd sy'n gwneud bywyd yn ystyrlon.