Nod gofal lliniarol yw cynnal a chyn belled ag y bo modd, gwella ansawdd bywyd pobl â salwch cynyddol na ellir ei wella, a chefnogi'r rhai sydd agosaf atynt.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
- Helpu pobl a'r rhai agosaf atynt i ymdopi â gofid emosiynol a phroblemau ymarferol y sefyllfa
- Helpu pobl i ymdopi â materion emosiynol/ysbrydol/ariannol a all godi pan fo salwch difrifol
- Eich helpu chi i fyw mor egnïol â phosibl
- Cysylltu â gwasanaethau cymorth eraill a’ch cyfeirio atynt
- Cefnogi teuluoedd a ffrindiau yn ystod salwch un sy'n annwyl
- Rhoi cyfle i bobl archwilio gwasanaethau cymorth a gofal ar ddiwedd oes
Os yw unigolyn yn cael trafferth gyda'i symptomau, yna gall gysylltu â'i feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol allweddol i weld a allant helpu. Gallant gyfeirio cleifion at y Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol am asesiad a chefnogaeth ychwanegol pan fo angen.