Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Diwedd Oes

Mae gofal diwedd oes yn golygu rhoi cefnogaeth i bobl sydd ym misoedd neu flynyddoedd olaf eu bywyd..

Y nod yw eich bod chi'n byw cystal â phosibl nes i chi farw. Yn ystod yr amser hwn, efallai y gofynnir i chi am eich dymuniadau a'ch dewisiadau a all gynnwys ble rydych chi am farw. Mae'n bosibl y gallwch chi dderbyn gofal diwedd oes gartref, mewn cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn hosbis. Mae hyn yn ddibynnol ar eich anghenion a'ch dewis chi.

Mae gan bobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes hawl i ofal o ansawdd uchel, lle bynnag y maent yn cael gofal.

Pwy sy'n darparu gofal diwedd oes?

Gall nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddarparu gofal diwedd oes. Yn aml, byddant yn gweithio gyda'i gilydd. Er enghraifft, eich meddyg teulu, meddygon ysbyty, nyrsys cymunedol, staff gofal cymdeithasol, caplaniaid, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol.

Os ydych chi'n cael gofal yn eich cartref neu mewn cartref gofal, eich meddyg teulu sy'n gyfrifol am eich gofal. Fel arfer, bydd nyrsys cymunedol yn ymweld â chi gartref ac efallai y bydd teulu a ffrindiau’n ymwneud yn agos â gofalu amdanoch chi hefyd.

Pryd mae hyn yn dechrau?

Dylai gofal diwedd oes ddechrau pan fydd ei angen arnoch. Bydd gofynion pob unigolyn yn wahanol – weithiau yn ystod y dyddiau neu wythnosau olaf o fywyd ac weithiau dros gyfnod hirach o fisoedd neu flynyddoedd.

Weithiau bydd pobl eisiau cynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn y dyfodol. Bydd rhoi gwybod i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynorthwyo â’ch gofal am y dymuniadau a'r dewisiadau hynny, yn eu helpu i geisio teilwra'ch gofal. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yn ein hadran cynllunio ymlaen llaw.