Mae ein tîm o nyrsys arbenigol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cynnig cymorth, cyngor ac ymyriadau arbenigol i bob plentyn sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd ledled Gogledd Cymru.
Mae ein nyrsys yn cefnogi iechyd corfforol, iechyd emosiynol a lles i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal rhwng 0 a 25 oed, gan weithio ar y cyd â'r gwasanaethau ymwelwyr iechyd generig a’r nyrsys ysgol ar gyfer plant rhwng 0 a 16 oed.
Mae’n bosibl y bydd plant yn cael eu rhoi mewn gofal o ganlyniad i benderfyniad y llys sy'n dweud nad yw'r plentyn yn gallu byw gyda'i deulu ei hun a bod angen gofalu amdano mewn gofal. Neu, efallai bod y rhieni wedi gwneud cytundeb gyda'r awdurdod lleol i ofalu am eu plentyn.
Gellir lleoli plant mewn gofal gyda'u rhieni, eu teulu estynedig a'u ffrindiau, gofalwyr maeth, mewn cartrefi preswyl i blant neu mewn llety diogel.
Gellir canfod deddfwriaeth plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth a chyngor am blant sy’n derbyn gofal: