Mae'r gwasanaeth ENT yn parhau i adolygu a thrin cleifion â'r anghenion clinigol mwyaf. Mae'r rhain yn cynnwys cleifion yr amheuir neu y cadarnhawyd bod canser arnynt neu ar lwybr canser sy'n bodoli eisoes. Mae'r gwasanaeth yn cynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gyfer y cleifion hynny sydd wedi'u hystyried fel y rhai clinigol brys.
Byddwn yn parhau i drefnu apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaeth yn ôl y brys a hyd yr arhosiad i gleifion fel arfer.
Gyda nifer fawr o gyflyrau, bydd angen llawdriniaeth ar y glust, trwyn a gwddf. Mae’r rhain yn amrywio o’r llawdriniaeth i dynnu’r tonsiliau ac adenoidau sy’n weddol syml ac sydd bellach yn driniaeth weddol anghyffredin, i'r driniaeth gymhleth i osod mewnblaniadau cochlea neu i drin canser y pen a’r gwddf.
Mae’r adran yn ymdrin â phob cyflwr sy’n effeithio ar y glust, trwyn, gwddf a’r chwarren thyroid.
Yn y glust, mae hyn yn cynnwys problemau clyw, cydbwysedd (yn cynnwys pendro), tinnitus (sŵn yn y glust) a haint ar y glust.
Ymhlith problemau yn y trwyn mae rhinitis a chlefyd sinus, anafiadau i’r trwyn, alergedd y trwyn ac (yn anaml) tyfiant.
Gall problemau’r gwddf gynnwys crygni, problemau llyncu a chwyrnu. Fel arfer, mae lympiau yn y gwddf a’r thyroid yn cael eu gweld mewn clinigau pwrpasol.
Oherwydd cymhlethdod anatomi’r pen a’r gwddf, mae’n bosibl y bydd rhai llawdriniaethau yn rhai mawr, yn cynnwys llawer o waith rhyngddisgyblaethol ag adrannau eraill.