Rydych chi'n flinedig iawn bob dydd a byddwch yn teimlo'r angen i eistedd neu orffwys yn aml, rydych hefyd yn teimlo'n fyr o wynt ac mae gwneud tasgau o ddydd i ddydd yn anodd iawn. Ymddengys nad yw ymarfer corff yn bosibl.
Defnyddiwch y graddfeydd hyn i weld y cyngor sydd fwyaf addas ar gyfer eich lefelau gorflinder presennol. Cofiwch, gallai eich graddfeydd newid dros amser ac mae'n iawn dychwelyd i'r dudalen hon i ailraddio lefelau eich gorflinder.
Gorflinder difrifol gydag effaith fawr ar weithgareddau o ddydd i ddydd
Pan fyddwch yn teimlo hynod flinedig bob dydd, efallai y bydd gwneud tasgau o ddydd i ddydd yn teimlo'n amhosibl. Mae hyn yn rhwystredig ac yn ofidus a gall achosi meddyliau a theimladau anodd, sydd ynddynt eu hunain yn cyfrannu at orflinder.
Un dechneg i helpu i reoli meddyliau a syniadau anodd yw meddwlgarwch.
Mae meddwlgarwch yn ymwneud â bod yn ymwybodol o'ch meddyliau a'ch teimladau wrth iddynt ddigwydd o un eiliad i'r llall.
Mae'r ymwybyddiaeth hon yn helpu i ddangos pan fyddwch yn canolbwyntio ar feddyliau mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol ac mae'n caniatáu i chi gymryd cam yn ôl o'ch meddyliau ac i ddewis canolbwyntio ar y byd o'ch amgylch yn hytrach.
Gall y dechneg hon eich helpu i sylwi ar arwyddion straen a gofid ac i ddelio â nhw'n gynt ac yn fwy effeithiol gan helpu i reoli'r agweddau emosiynol a meddyliol ar orflinder.
Cyflwyno gweithgarwch ysgafn
Pan fyddwch yn teimlo'n hynod flinedig, gall gweithgarwch corfforol deimlo'n amhosibl. Fodd bynnag, bydd cyflwyno ychydig bach o weithgarwch ysgafn iawn yn helpu i ddechrau ail-wefru eich batri a gwella lefelau eich egni. Dyma ddolenni i fideos gyda symudiadau Tai Chai ysgafn y gallwch eu gwneud wrth eistedd yn eich cadair:
Cylch diffyg gweithgarwch
Bydd deall cylch diffyg gweithgarwch yn helpu i ddeall pam mae gweithgarwch corfforol yn fuddiol i reoli gorflinder.
Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â'ch darparwr gofal iechyd am fynd i'r afael ag unrhyw ffactorau isorweddol fel anaemia a chymeriant maethol is.
Mae Macmillan wedi cynhyrchu gwybodaeth am orflinder sy'n gysylltiedig â chanser a allai fod yn ddefnyddiol. Mae hwn ar gael ar ffurf llyfr llafar neu destun ysgrifenedig:
Mae'r graddfeydd hyn wedi cael eu haddasu o Fitch, M.I., et al., The fatigue pictogram: psychometric evaluation of a new clinical tool. Canadian Onclology Nursing Journal, 2011. 21(4): p. 206 gyda diolch.