Neidio i'r prif gynnwy

Wedi blino ychydig bach, galla' i wneud bron popeth y byddaf yn ei wneud fel arfer

Rydych yn teimlo'n ychydig bach yn fwy blinedig nac arfer a gallwch wneud popeth y mae angen i chi ei wneud.

Gorflinder ysgafn gyda'r effaith leiaf ar fywyd o ddydd i ddydd

Gall dysgu ac ymarfer strategaethau rheoli gorflinder helpu i atal gorflinder rhag gwaethygu a lleihau ei effaith ar fywyd o ddydd i ddydd, sy'n golygu y byddwch yn gallu gwneud mwy o'r pethau sy'n bwysig i chi.  

Osgoi 'llanw a thrai'

Mae'n bwysig osgoi patrwm gweithgarwch 'llanw a thrai' gan y gall hyn wneud gorflinder yn waeth dros amser gan amharu ymhellach ar fywyd o ddydd i ddydd.  

Gwneud pethau wrth eich pwysau eich hun

Y ffordd orau o reoli eich gorflinder a lleihau'r effaith ar fywyd o ddydd i ddydd yw gwneud gweithgareddau fesul cam trwy gydol y dydd, gan gyfnewid gweithgareddau mwy heriol am rai haws neu gyfnodau gorffwys. Gwybodaeth ddefnyddiol am sut i reoli lefelau eich egni gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol.

Dyma ychydig o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol: