Neidio i'r prif gynnwy

Rhagsefydlu a'ch lefelau egni

Mae'n fwy na theimlo'n flinedig!

Mae gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser yn un o sgil-effeithiau mwyaf cyffredin canser; mae llawer o bobl yn profi gorflinder fel un o symptomau canser cyn derbyn eu diagnosis. Gorflinder hefyd yw sgil-effaith mwyaf cyffredin triniaethau canser fel cemotherapi, radiotherapi ac imiwnotherapi. Mae pobl sy'n derbyn llawdriniaeth yn aml yn gweld bod eu gorflinder yn waeth dros y diwrnodau a'r wythnosau sy'n dilyn llawdriniaeth.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â chanser yn profi gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser ar ryw adeg yn ystod eu taith canser. Bwriedir i'r wybodaeth ar y dudalen hon eich helpu i ddeall gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser; pam yr ydych yn teimlo fel hyn a sut i wella lefelau eich egni cyn triniaeth fel y gallwch deimlo'n well cyn, yn ystod ac ar ôl eich triniaeth.

Mae pobl sydd â chanser yn disgrifio gorflinder fel teimlo'n flinedig, yn wan, yn swrth, yn drwm, neu araf, neu nad oes ganddynt unrhyw egni nac awydd. Efallai y cyfeirir at orflinder yn achos pobl sydd â chanser fel gorflinder canser, gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser, a gorflinder sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser.

Prif bwyntiau

  • Gorflinder yw sgil-effaith mwyaf cyffredin triniaeth canser
  • Mae gorflinder canser yn wahanol i orflinder neu flinder y bydd pobl iach yn ei brofi
  • Gall gorflinder waethygu ansawdd eich bywyd

Mae llawer o achosion a ffactorau'n cyfrannu at orflinder sy'n gysylltiedig â chanser

Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:

  • Y canser ei hun
  • Sgil-effeithiau meddyginiaethau/triniaethau
  • Meddyliau pryderus
  • Poen
  • Straen
  • Ansicrwydd
  • Llawdriniaeth
  • Anawsterau bwyta
  • Anaemia - cyfrif isel o gelloedd coch yn y gwaed
  • Lefelau gweithgarwch is

Mae gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser yn wahanol iawn i'r teimlad arferol o flinder y bydd pob un ohonom yn ei brofi o dro i dro ar ôl diwrnod prysur neu weithgarwch mawr. Caiff blinder arferol ei leddfu trwy gysgu a gorffwys. Fodd bynnag, nid yw gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser yn gymesur â lefelau gweithgarwch neu egni a ddefnyddiwyd, nid yw'n cael ei leddfu trwy orffwys a gall bara am gyfnod hir. Fideo defnyddiol yn esbonio gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser.

Meddyliwch amdanoch chi'ch hun fel batri: cyn i orflinder sy'n gysylltiedig â chanser effeithio arnoch, byddech yn defnyddio egni yn ystod y dydd wrth i chi gyflawni eich gweithgareddau o ddydd i ddydd. Erbyn hyn, mae'ch batri'n llai felly mae'n cymryd llai o ymdrech i'w ddraenio. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wefru eich batri'n amlach.

Ffordd dda o wneud hyn yw cyfnewid gweithgareddau egnïol am rai haws neu gyfnodau o orffwys. Nid yw gorffwys yn unig neu wneud ychydig iawn o weithgarwch am gyfnodau'n helpu, oherwydd yn debyg i fatri car, mae angen i'ch corff barhau i symud er mwyn cael ei wefru'n gyson. Dychmygwch gar wedi'i barcio ar y ddreif am gyfnod hir - nid yw'r batri'n cael ei wefru; a thros amser, bydd yn mynd yn fflat. Felly, mae'n bwysig parhau i fod yn egnïol ar lefel gorfforol er mwyn helpu i reoli a lleihau eich gorflinder.

Sut i reoli eich gorflinder sy'n gysylltiedig â chanser

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol: