Neidio i'r prif gynnwy

Rhagsefydlu ac ysmygu

Fe'ch cynghorir yn gryf i roi'r gorau i ysmygu cyn i'ch triniaeth canser ddechrau. Gall helpu eich corff i ymateb i driniaeth ac i iacháu'n gyflymach, gall hefyd leihau'r tebygolrwydd o amharu ar eich triniaeth a'r risg y bydd y canser yn dychwelyd.

Os ydych yn cael llawdriniaeth, fel rhan o'ch triniaeth, bydd rhoi'r gorau i ysmygu'n helpu i wneud y canlynol:

  • Lleihau cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r galon, yr ysgyfaint a chlwyfau
  • Lleihau amser iacháu clwyfau
  • Lleihau hyd eich arhosiad yn yr ysbyty
  • Lleihau symptomau sy'n gysylltiedig â thriniaeth
  • Gwella ansawdd eich bywyd yn dilyn triniaeth

Os ydych yn cael radiotherapi, fel rhan o'ch triniaeth, efallai y bydd yn fwy effeithiol os byddwch yn rhoi'r gorau i ysmygu. Gallai hefyd leihau sgil-effeithiau a gwella eich ymdeimlad o les, yn gyffredinol

Mae llawer o opsiynau ar gael i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu. Y ffordd orau o roi'r gorau i ysmygu yw defnyddio cyfuniad o driniaeth neu feddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu a chymorth arbenigol.

Siaradwch â'ch tîm gofal iechyd am gymorth arbenigol a allai fod ar gael, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Helpa fi i Stopio.

Fepio

Nid yw fepio neu defnyddio e-sigarét yr un mor niweidiol ag ysmygu sigarets. Fodd bynnag, mae goblygiadau iechyd hirdymor fepio yn dal i fod yn anhysbys. Mae hylif fepio'n cynnwys nicotin sy'n cynyddu cyfradd curiad eich calon a'ch pwysedd gwaed gan roi eich calon o dan straen. Ceisiwch osgoi fepio cyn eich llawdriniaeth.

Gall hyn fod yn anodd pan fyddwch o dan straen. Mae Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn awyddus i'ch cefnogi ac mae rhagor o wybodaeth ar gael - Exercise activities | Living With Liver Cancer.

Adnoddau a gwybodaeth defnyddiol: