Neidio i'r prif gynnwy

Rhagsefydlu a deiet

Ers eich diagnosis, efallai eich bod wedi ystyried beth y dylech fod yn ei fwyta a pha fwydydd sy'n gallu helpu gyda'ch triniaeth ac o bosibl, a oes unrhyw fwydydd y dylech osgoi eu bwyta. Efallai nad ydych wedi cael amser i ystyried beth a sut rydych yn ei fwyta, mae llawer o wybodaeth yn ymwneud â beth i'w fwyta a allai fod yn ddryslyd. Mae canllaw isod i'ch helpu i ystyried y bwydydd yr ydych yn eu bwyta yn ystod triniaeth.

Y neges bwysicaf yw bwyta mor iach â phosibl. Gall dewis ystod eang o fwydydd yn y cyfrannau cywir, eich helpu i deimlo'n well a gwella lefelau eich egni. Deiet amrywiol yw'r enw ar hyn ac mae'n cynnwys bwyta digon o brotein, calorïau a maetholion eraill.

Mae bwyta'n iach yn rhywbeth y gallwch ei wneud drosoch eich hun sy'n gallu cael effaith bositif ar ganlyniad eich triniaeth. Gall dewis deiet amrywiol eich helpu i wneud y canlynol:

  1. Cynnal pwysau corff iach
  2. Amddiffyn y cyhyrau a nerth
  3. Lleihau sgîl-effeithiau’r driniaeth
  4. Gwella gwytnwch corfforol er mwyn cwblhau triniaeth wedi'i chynllunio

Os ydych wedi derbyn cyngor i ddilyn deiet arbennig gan eich tîm ysbyty, fel deiet ffibr isel, efallai y bydd rhywfaint o'r wybodaeth hon yn ddryslyd i chi. Gofynnwch i'ch tîm ysbyty am gael siarad â deietegydd.

Os ydych wedi bod yn trio colli pwysau cyn i'ch triniaeth ddechrau, nid yw hyn yn rhywbeth y dylid ei annog ar y cyfan. Fodd bynnag, efallai eich bod wedi cael eich cynghori gan eich tîm ysbyty a dylech barhau i dderbyn cefnogaeth ganddynt er mwyn lleihau'r risg o golli cyhyrau a nerth.

Os ydych wedi cael cyfarwyddyd i ddilyn deiet penodol gan ffrindiau neu'ch teulu, neu os ydych wedi dod o hyd i wybodaeth ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol am fwyta'n iach pan fo canser arnoch, edrychwch ar Gymdeithas Ddeieteg Prydain: Deietau Canser - Chwedlau a Mwy.

Pa fwydydd ddylwn i eu bwyta?

Dylai bwyta prydau bwyd bob dydd a chynnwys amrywiaeth o fwydydd o'r grwpiau bwyd amrywiol eich helpu i gael yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch.

 

Mae'r 'Canllaw Bwyta'n Iach' yn dangos cyfrannau'r prif grwpiau bwyd sy'n ffurfio deiet cytbwys:

Maint cyfrannau

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o faint cyfrannau, gan y gall bwyta gormod neu symiau annigonol o unrhyw fwydydd gynyddu eich risg o gael problemau iechyd. Mae hyn oherwydd y gallai eich corff fod yn cael gormod neu symiau annigonol o'r hyn sydd ei angen arno i gadw'n iach.

Os hoffech wybod mwy am faint cyfrannau, edrychwch ar y ddolen hon: Ffeithlen Maint Cyfrannau BDA.

Os ydych yn cael problemau gyda'ch archwaeth am fwyd, eich bod wedi colli pwysau neu os ydych yn cael anhawster bwyta ac yfed, rhowch wybod i rywun o dîm eich ysbyty gan y gallent eich cyfeirio at ddeietegydd cofrestredig am gyngor a chymorth pellach. Mae hyn yn bwysig gan y gall colli pwysau'n anfwriadol effeithio ar eich gallu i ymdopi â'ch triniaeth.

Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i'w hystyried os yw'ch archwaeth am fwyd yn isel, eich bod o bwysau annigonol neu os ydych yn colli pwysau:

  1. Dylech gael byrbrydau sy'n uchel mewn calorïau/protein rhwng tri phryd o fwyd y dydd fel: cnau, iogyrtiau, caws a chraceri, tost gyda menyn a jam, crympets, llaeth braster llawn, siocled poeth, ysgytlaeth a smwddis
  2. Dewiswch opsiynau 'braster llawn' yn lle rhai 'braster isel'
  3. Dylech gynnwys opsiynau protein fel cig, pysgod, llaeth, caws, tofu, wyau, ffa a chnau
  4. Rhowch gynnig ar gyfoethogi eich bwydydd
  5. Yfwch hylifau ar ôl eich prydau bwyd i osgoi llenwi eich bol

Os ydych yn dilyn deiet sy'n seiliedig ar blanhigion, mae enghreifftiau o ddewisiadau amgen i gyfoethogi eich deiet yn cynnwys:

  • Llaeth ac iogyrtiau cnau, ceirch neu soia
  • Gellir ychwanegu olew olewydd/sesame/cneuen goco at basta, salad a gellir eu defnyddio wrth goginio
  • Quorn©, tofu neu gynhyrchion cig soia
  • Gellir ychwanegu ffacbys/corbys at gawliau a stiwiau
  • Gellir ychwanegu menyn cnau daear/cnau, jamiau, surop euraidd/masarnen at fara, grawnfwydydd a phwdinau. 

Rhagor o wybodaeth os yw'ch archwaeth am fwyd yn isel, eich bod o bwysau annigonol neu os ydych yn colli pwysau: Gwneud y mwyaf o'ch bwyd.

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol