Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi eich hun ar gyfer triniaeth canser – rhagsefydlu

Beth yw rhagsefydlu?

Rhagsefydlu yw'r amser y byddwch yn ei gael cyn i'ch triniaeth canser ddechrau. Mae'n gyfle i chi ganolbwyntio ar eich iechyd a'ch lles ac mae'n gyfle i chi fagu nerth a bod yn iachach wrth i chi baratoi ar gyfer eich triniaeth.

Mae Rhagsefydlu yn cwmpasu tair prif agwedd ar eich iechyd:

  • Deiet a Maeth
  • Gweithgarwch corfforol  
  • Lles emosiynol

Bydd rhoi’r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol a dysgu sut i ymdopi â blinder hefyd yn helpu tra byddwch yn cael eich trin.

Cofiwch ei bod yn bwysig mynychu'r holl apwyntiadau y bydd yr ysbyty'n eu hanfon atoch.

Sut mae rhagsefydlu'n helpu?

Efallai y bydd canser eisoes wedi effeithio ar eich archwaeth am fwyd neu'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Gall triniaeth canser hefyd fod yn her i chi ar lefel gorfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu i ymdopi â'r newidiadau y gallwch fod yn eu profi neu'r ffordd yr ydych yn teimlo.

Gall gwella eich gweithgarwch corfforol, deiet a'ch lles meddyliol eich helpu i ymdopi â'r hyn sydd o'ch blaen a bydd hefyd yn eich galluogi i gymryd rheolaeth ac i barhau â'r gweithgareddau sy'n bwysig i chi.

Sut mae rhagsefydlu'n helpu?

Gweler fideo isod gan Ymchwil Canser y DU yn esbonio pa mor bwysig yw rhagsefydlu:

  • Lleihau cymhlethdodau a sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser a helpu i gyflymu adferiad
  • Eich galluogi i wneud y pethau sy'n bwysig i chi
  • Gweithio tuag at ffordd o fyw sy'n fwy actif
  • Eich helpu i deimlo'n fwy gwydn a hyderus
  • Gwella eich hwyliau a helpu i reoli gofid a straen
  • Gwella maeth a sicrhau bod gennych ddigon o 'danwydd' ar gyfer y driniaeth sydd o'ch blaen

Cofiwch: O deimlo ar eich gorau posibl cyn i unrhyw driniaeth ddechrau, hawsaf yn y byd fydd eich profiad, a bydd eich adferiad ar ôl triniaeth yn gynt.

Rhagor o gyngor ar yr hyn y mae rhagsefydlu'n ei gynnwys:

 

 

 

Sylwch mai canllaw yw'r wybodaeth ar y wefan hon, ac ni ddylai gymryd lle unrhyw gyngor unigol y gallech fod wedi'i dderbyn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

Os bydd gennych bryderon ynghylch eich cyflwr, cysylltwch â'ch tîm ysbyty. Bydd llyfryn yn cynnwys y wybodaeth ar y tudalennau hyn ar gael yn fuan.

Adnoddau a gwybodaeth defnyddiol: