Croeso i rifyn y Gwanwyn o'r cylchlythyr Awdioleg
Mae tymor y gaeaf ar gyfer Awdioleg wedi gweld staff a gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed yn dechrau rhoi'r gwasanaeth gwirfoddol ar waith eto, yn ogystal â chasglu tystiolaeth ar gyfer archwiliad o'r gwasanaeth. Mae gennym rif ffôn newydd ar gyfer pob un o'r tri safle ac mae gennym rai canlyniadau o arolygon boddhad cleifion, y manylir ar bob un ohonynt yn y cylchlythyr hwn.
Cadwch lygad ar y wefan Awdioleg am ddiweddariadau, gwybodaeth am ddatrys problemau a chynnal a chadw cymhorthion clyw a nawr,
Y Diweddaraf ar Wirfoddolwyr
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein clinigau galw heibio dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi bod yn dechrau ailagor. Mae'r clinigau hyn yn cynnig ail-diwbio, glanhau, cynnal a chadw sylfaenol a chyngor/cymorth i'r rhai sy'n gwisgo cymhorthion clyw'r GIG. Mae lleoliadau presennol yn cynnwys:
Canolfan Dewi Sant, Pensarn
CoS, Bae Colwyn
Canolfan Hamdden Dolgellau
Clwb yr Henoed, Abergele
Llyfrgell Prestatyn
Llyfrgell Rhuddlan
Llyfrgell y Rhyl
Llyfrgell Llanelwy
Canolfan y Drindod
Llandudno
Tywyn
Ysbyty Alltwen
Mold
Bala
A fuasai gennych chi ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr, cwrdd â phobl eraill sydd wedi colli eu clyw a'u cynorthwyo â'u teclynnau clywed? Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, felly os oes gennych chi brofiad o declynnau clywed a/neu golled clyw ac mae gennych chi ddiddordeb mewn dod yn un o'n gwirfoddolwyr, cysylltwch â'ch Adran Awdioleg leol i gael rhagor o wybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth gwirfoddol ar gael ar ein gwefan:
Safonau Ansawdd Oedolion
Mae gwasanaethau Awdioleg Oedolion newydd fynd trwy broses archwilio allanol. Mae'r gwasanaeth yn casglu tystiolaeth i gymharu ein gwasanaeth yn erbyn Safonau Ansawdd sy'n orfodol yng Nghymru. Mae'r safonau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n cleifion.
Mae ein staff wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr archwiliad hwn ac rydym yn falch o ddweud ein bod wedi sgorio dros 98% ar gyfer ein gwasanaethau ar draws BI PBC a Gogledd Powys.
Fel bob amser, byddwn yn defnyddio unrhyw adborth i barhau i weithio ar ffyrdd o wella'r gwasanaeth yn y dyfodol.
Holiaduron Bodlonrwydd Gwasanaeth
Rydym wedi cynnwys rhai canlyniadau o'n holiaduron boddhad cleifion diweddaraf. Rydym yn falch o'r canlyniadau ac rydym hefyd wedi nodi rhai meysydd i'w gwella.Cawsom hefyd wybodaeth am yr amgylchoedd, gwybodaeth a hygyrchedd.