Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau

Mae'r Unedau Mân Anafiadau (MIUs) yn cael eu staffio gan ymarferwyr brys profiadol sy'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr gofal iechyd ac nid oes meddygon yn yr Unedau Mân Anafiadau. Bydd cleifion sy'n mynychu un o'r unedau yn cael eu hasesu a'u trin cyn gynted â phosibl. Os na ellir delio â'ch cyflwr yn yr Uned Mân Anafiadau, yna cewch eich cyfeirio at eich Meddyg Teulu neu'r Adran Achosion Brys agosaf neu at wasanaeth priodol arall.

Mae anafiadau'n cynnwys:

  • Mân anafiadau
  • Mân anafiadau yn achos plant
  • Brathiadau gan Bobl / Anifeiliaid
  • Mân losgiadau
  • Mân anafiadau i'r pen / rhwygo croen y pen
  • Gwrthrychau estron yn y glust / trwyn
  • Anafiadau i'r aelodau corfforol
  • Mân anafiadau i’r llygaid
  • Pigiadau gan drychfilod

Ni all unedau mân anafiadau drin cleifion sydd wedi llewygu, yn cael poen yn y frest, problemau anadlu, poen yn yr abdomen, problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gorddos cyffuriau, problemau gynaecoleg, cyflyrau iechyd sy'n cael eu trin fel arfer gan feddyg teulu fel mân salwch, problemau iechyd meddwl, problemau deintyddol, anaf i'r gwddf, anaf i'r frest neu'r cefn. 

Rydym yn wasanaeth galw heibio; nid oes angen apwyntiad a GIG 111 Cymru yw'r lle cyntaf y dylech geisio cymorth. Fodd bynnag, os yw'r claf yn dal yn ansicr, mae'n well ffonio'r Uned Mân Anafiadau, i'n galluogi i roi'r claf yn y lle iawn, ar yr amser iawn, y tro cyntaf.

Unedau Mân Anafiadau

Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi, Ynys Môn, LL65 2QA

Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos 
Rhif Ffôn: 0300 085 0022
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-4pm

Ysbyty Dolgellau, Dolgellau, LL40 1NT

Ar gau
Rhif Ffôn: 01341 422 479
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun - o 1pm tan 4pm, Dydd Mawrth - o 9am tan 12pm, Dydd Mercher - o 12pm tan 4pm, Dydd Iau - o 9am tan 4pm, Dydd Gwener - o 9am tan 12pm

Ysbyty Bryn Beryl, Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT

Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn: 03000 850014
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Bob dydd Mercher a dydd Iau rhwng 9am-2pm (heblaw am wyliau'r banc) o 09:00am - 14.30pm

Ysbyty Alltwen, Tremadog, LL49 9AQ

Ar agor: 8:00am - Hanner Nos,  7 diwrnod yr wythnos. (yn cau am 8pm rhwng 20 Rhagfyr - 6 Ionawr) 
Rhif Ffôn: 03000 850 027
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun - o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mawrth - o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mercher - o 9.30am tan 4:30pm, Dydd Iau - o 9:30am tan 11:30am, Dydd Gwener - o 9:30am tan 4:30pm

Ysbyty Tywyn, Bryn Hyfryd Road, Tywyn, LL36 9HH

Ar agor: o 8am tan 5pm, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif Ffôn: 03000 850 026
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Iau - o 9am tan 2.15pm 

*Ar hyn o bryd, nid yw'r Uned Mân Anafiadau ar agor ar Ŵyl y Banc*

Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ffordd yr Ysbyty, Llandundo, Conwy, LL30 1LB

Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn:  03000 850 013
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 5pm

Ysbyty Cymuned Dinbych, Ffordd Rhuthun, Dinbych, LL16 3ES

Ar agor: o 8am tan 6pm, Dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif Ffôn: 03000 850 019
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: (Rhif: 03000 855 774): Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9:30am tan 12pm a 2pm tan 4:30pm

Ysbyty Treffynnon, Ffordd Halkyn, Treffynnon, CH8 7TZ

Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn: 03000 856 739

Ysbyty Yr Wyddgrug, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG

Ar agor: o 8am tan 6pm, Dydd Llun i ddydd Sadwrn
Ar gau Dydd Nadolig
Ar agor ar Ddydd San Steffan
Sylwer: Mae'r Adran Pelydr-X ar gau ar ddyddiau Sadwrn a gwyliau banc
Rhif Ffôn: 03000 850 006
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 4pm