Mae gwybodaeth am Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru ar gael ar wefan Gofal Llygaid Cymru - GIG Cymru.
Os ydych chi wedi cael trafferth cael apwyntiad mewn practis optometreg (optegwyr) ar gyfer problem llygaid sydd angen sylw brys, ewch i wefan Gofal Llygaid Cymru - GIG Cymru.
Os ydych chi'n anfodlon â gwasanaeth neu ymddygiad eich ymarferydd optegol, dylech geisio datrys unrhyw anawsterau yn uniongyrchol gyda'r practis.
Os na allwch ddod i gytundeb cyfeillgar gyda'r practis gallwch gyfeirio'r mater at eich swyddfa Safonau Masnach leol, neu'r Bwrdd Iechyd os ydych yn glaf GIG. Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optego.
Mewn achosion lle mae honiadau’n codi ynghylch ffitrwydd i ymarfer optometrydd cofrestredig neu optegydd cyflenwi, gall y Cyngor Optegol Cyffredinol gychwyn ymchwiliadau.