Gall fferyllfeydd roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar drin anhwylderau a chyflyrau cyffredin a'u symptomau e.e. y llindag, y darwden, gan gynwys:
Nid oes angen apwyntiad bob amser ond efallai y bydd gofyn i chi aros neu i ddychwelyd wedyn os byddant yn brysur. Mae llawer o fferyllfeydd ar agor y tu allan i oriau arferol gan gynnwys gyda'r nos.
Cyn mynd i weld eich meddyg teulu, byddem yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch fferyllydd, gall helpu i benderfynu p'un a ddylech weld meddyg a gall roi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau iechyd eraill.
A oeddech chi'n gwybod bod rhai fferyllfeydd yn cynnig gwasanaethau cyflenwi brys os byddwch yn rhedeg allan o'ch ail-bresgripsiwn ar ddamwain ac nad ydych yn gallu cael presgripsiwn yn eich meddygfa? Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu hormonaidd brys, brechu rhag y ffliw a chymorth i roi'r gorau i ysmygu.
Gall fferyllfeydd helpu i roi cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o fân afiechydon a chyflyrau’r gaeaf hwn ac osgoi ymweliadau diangen â’r ysbyty. Gall fferyllwyr asesu'r cyflwr, darparu cyngor hunanofal ac, os oes angen, rhagnodi gwrthfiotigau. Nod y gwasanaeth hwn yw lleihau'r pwysau ar wasanaethau Meddygon Teulu ac ysbytai y gaeaf hwn a sicrhau bod cleifion yn cael gofal amserol.