Gall fferyllfeydd roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar drin anhwylderau a chyflyrau cyffredin a'u symptomau, gan gynwys:
Gall pob fferyllydd gynnig meddyginiaethau dros y cownter a chyngor ar gyfer ystod eang o anhwylderau a phroblemau cyffredin, heb fod angen i gleifion weld meddyg.
Gall rhai fferyllwyr ragnodi mwy o feddyginiaethau. Gall fferyllydd rhagnodi annibynnol benderfynu a oes angen presgripsiwn arnoch ar gyfer problemau gan gynnwys: cyflyrau’r glust, y trwyn, y geg a’r llygaid, dolur gwddf, heintiau’r frest a pheswch, heintiau’r llwybr wrinol, gowt, cyfog a chwydu, fertigo a meigryn, poen yn y cefn a phoen arthritig, a chyflyrau croen fel brechau a’r eryr.
Dim ond fferyllwyr rhagnodi annibynnol cymwys mewn rhai fferyllfeydd cymunedol all ragnodi meddyginiaethau yn y modd hwn. Chwiliwch am eich fferyllfa ragnodi annibynnol agosaf a ffoniwch cyn ymweld i drefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Gall eich fferyllydd eich cyfeirio at feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall os ydynt yn meddwl bod angen mwy o driniaeth arnoch.