Cyn i chi archebu eich presgripsiwn mae’n werth i chi edrych pa feddyginiaethau sydd gennych yn eich cartref fel eich bod ond yn archebu’r hyn sydd arnoch ei angen.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru ar gyfer ap GIG Cymru a defnyddio hwn i archebu eich presgripsiynau ailadroddus. Mae'r ap wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer cleifion y GIG yng Nghymru a dyma'r ffordd fwyaf diogel a hawsaf o ofyn am bresgripsiynau a threfnu apwyntiadau yn eich practis meddyg teulu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr ap GIG Cymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr ap GIG Cymru.
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth reolaidd byddwch yn gallu archebu presgripsiwn arall pan fydd yn amser i chi gael mwy.
Bydd gan bob Meddygfa ei threfniadau ei hun o ran y ffordd rydych yn archebu eich presgripsiwn amlroddadwy ond dylech ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod gwaith i’ch meddygfa brosesu eich presgripsiwn. Efallai y bydd gan y Fferyllfa Gymunedol rydych yn dewis ei defnyddio wasanaeth casglu presgripsiynau fel y gallwch gasglu eich meddyginiaeth yn syth o’r Fferyllfa ar ôl i chi archebu eich presgripsiwn amlroddadwy o’r Feddygfa.
Fel arfer caiff y presgripsiynau hyn eu cyfnewid mewn Fferyllfa Gymunedol. Mewn ardaloedd gwledig lle mae’r claf yn byw dros 1.6 cilomedr o Fferyllfa Gymunedol, ac wedi’i gofrestru mewn Meddygfa sy’n cynnwys Fferyllfa, gall y claf gael ei feddyginiaethau gan ei Feddyg Teulu.
Os ydych yn derbyn eich presgripsiwn bob 28 diwrnod fel arfer, gallai hyn gael ei ymestyn i 56 diwrnod yn ystod eich adolygiad nesaf. Gallai hyn olygu casglu eich meddyginiaeth bob deufis.
Bydd hyn yn lleihau nifer y teithiau y mae angen i chi eu gwneud i fferyllfa gymunedol/ meddygfa.
Efallai na fydd rhai cleifion yn addas i newid oherwydd:
Helpwch ni i’ch helpu chi trwy archebu eich presgripsiynau saith diwrnod ymlaen llaw er mwyn caniatáu amser i’ch meddyg teulu a’ch fferyllfa gymunedol ddelio â’r cais.
Gofynnwn i chi barhau i archebu’r hyn sydd arnoch ei angen yn unig gan ddychwelyd unrhyw feddyginiaeth heb ei defnyddio neu nad oes ei hangen at fferyllfeydd cymunedol fel bod modd cael gwared arnynt yn ddiogel. Archebwch eich meddyginiaeth ar-lein neu drwy ap lle bynnag y bo modd.
Darganfyddwch ble gallwch chi gael mwy o feddyginiaeth pan fydd eich cyflenwadau meddyginiaeth wedi dod i ben. Rhaid i hyn fod ar gyfer meddyginiaeth a ragnodir i chi yn rheolaidd trwy bresgripsiwn amlroddadwy. Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael:
Dylai unrhyw un sy’n ansicr beth i’w wneud gysylltu â’u meddyg teulu neu os na allwch gysylltu â’ch meddyg teulu, ffoniwch 111. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan GIG 111 Cymru. Cynhyrchion StomaOs ydych yn defnyddio cynhyrchion stoma mae gennych ddewis o dderbyn eich cyflenwadau o Fferyllfa Gymunedol neu gan gontractwr offer. Bydd angen i chi archebu eich presgripsiwn o’ch Meddygfa o hyd, pa bynnag gyflenwr y byddwch yn ei ddewis. Dylech gael cyngor diduedd pan fyddwch yn cychwyn defnyddio cynnyrch. |