Os yw eich dolur gwddf yn ddifrifol neu os oes gennych ddolur gwddf parhaus nad yw wedi dechrau gwella ar ôl wythnos, ewch i’ch Fferyllfa leol i gael y gwasanaeth profi dolur gwddf a’i drin.
Mae'r gwasanaeth ar gael er mwyn helpu i ganfod p'un a yw dolur gwddf yn cael ei achosi gan haint firysol neu facteriol fel y gallwch gael cyngor arbenigol a thriniaeth yn gyflym heb orfod mynd i weld eich meddyg teulu.
Byddwch yn cael ymgynghoriad gyda Fferyllydd, a fydd yn defnyddio cyfres o gwestiynau strwythuredig a phrawf swab, o bosibl, i ganfod yr hyn sy'n achosi eich dolur gwddf. Os canfyddir mai haint firysol yw'ch dolur gwddf na fydd modd ei drin gyda gwrthfiotigau, gall y Fferyllydd roi cyngor ar gamau i'w cymryd er mwyn gwella. Gall y Fferyllydd roi gwrthfiotigau hefyd os bydd y prawf yn dangos haint facteriol.
Dewch o hyd i'ch fferyllfa leol sy'n cynnig y gwasanaeth hwn
Dewch o hyd i'ch fferyllfa leol sy'n cynnig y gwasanaeth prawf a thriniaeth dolur gwddf ar wefan GIG 111 Cymru
Cyngor Cyffredinol ar Reoli Dolur Gwddf
Hunan Ofal – gofalu amdanoch eich hun gartref
- Cymerwch ibuprofen neu baracetamol – mae paracetamol yn well i blant ac i bobl nad ydynt yn gallu cymryd ibuprofen (sylwer na ddylai plant o dan 16 oed fyth gymryd aspirin)
- Yfwch ddigon o hylifau oer a chynnes, a cheisiwch osgoi diodydd poeth iawn
- Bwytwch fwydydd oer, meddal
- Ceisiwch osgoi ysmygu a llefydd myglyd
- Defnyddiwch gegolch cartref o ddŵr halen, cynnes
- Ceisiwch sugno ar losennau, pethau da caled, ciwbiau rhew a loliau rhew - ond peidiwch â rhoi dim byd bach a chaled i blant ifanc sugno arnynt oherwydd y risg o dagu
Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu os:
- Ydych yn cael dolur gwddf difrifol yn aml
- Oes gennych system imiwnedd gwan – er enghraifft, mae gennych HIV, rydych yn cael cemotherapi, neu rydych yn cymryd meddyginiaeth sy’n atal eich system imiwnedd
Ewch i’ch adran achosion brys agosaf os:
- Yw eich dolur gwddf yn ddifrifol iawn neu’n gwaethygu’n gyflym
- Rydych yn cael anhawster gydag anadlu
- Rydych yn gwneud sŵn traw uchel wrth i chi anadlu (a elwir yn stridor)
- Rydych yn cael anhawster difrifol wrth lyncu
- It would be: Rydych yn dechrau glafoerio