Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Anhwylderau Cyffredin

Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cynnig ymgynghoriad am ddim gyda fferyllydd GIG i gleifion, a meddyginiaeth am ddim ar gyfer rhai anhwylderau cyffredin.

Os oes gennych anhwylder cyffredin, ac yn ymweld â fferyllfa, gallwch ofyn i'r fferyllydd am gyngor a chymorth. Gall y fferyllydd roi meddyginiaeth i chi i drin yr anhwylder cyffredin.

  • Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda Phractis Meddyg Teulu. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr dros dro.
  • Efallai y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bwy ydych chi i'r fferyllydd cyn y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth os nad yw'r fferyllydd yn eich adnabod.
  • Dim ond gydag un fferyllfa gymunedol ar y tro y gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Os ydych am fynd i fferyllfa gymunedol arall ar gyfer y gwasanaeth, gallwch wneud hynny, ond bydd angen i chi gofrestru gyda'r fferyllfa newydd.
  • Byddwch yn cael ymgynghoriad gyda fferyllydd cymwys mewn ardal breifat o fewn y fferyllfa
  • Os bydd eich fferyllydd o’r farn bod angen meddyginiaeth neu gynnyrch arnoch i drin eich symptomau, efallai y bydd yn gallu rhoi’r rheiny i chi am ddim o dan y gwasanaeth hwn. Os nad ydych yn dymuno cofrestru gyda'r gwasanaeth, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor i chi, ond ni fydd yn gallu darparu unrhyw feddyginiaeth am ddim.

Pa salwch neu anhwylder sy'n dod o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin?

  • Acne
  • Tarwden y traed
  • Poen cefn
  • Brech yr ieir
  • Dolur annwyd
  • Colig
  • Rhwymedd
  • Dermatitis
  • Dolur rhydd
  • Llygaid sych
  • Ecsema
  • Heintiau llygaid
  • Clefyd y gwair
  • Llau pen
  • Diffyg traul
  • Casewin
  • Intertrigo
  • Wlserau’r geg
  • Brech cewyn
  • Llindag y geg
  • Peils
  • Tarwden
  • Y clefyd crafu/sgabies
  • Dolur gwddf
  • Torri dannedd
  • Llyngyr edau
  • Llindag y wain
  • Ferwca

Os yw’ch fferyllydd yn teimlo ei bod yn fwy priodol i chi weld eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, efallai y bydd yn dweud wrthych am drefnu apwyntiad

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, ewch i’r wefan wefan GIG 111 Cymru.