Cyn mynd i weld eich meddyg teulu, byddem yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch fferyllydd, gall helpu i benderfynu p'un a ddylech weld meddyg a gall roi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau iechyd eraill. Nid oes angen apwyntiad bob amser ond efallai y bydd gofyn i chi aros neu i ddychwelyd wedyn os byddant yn brysur. Mae llawer o fferyllfeydd ar agor y tu allan i oriau arferol gan gynnwys gyda'r nos.