Mae Clinig HD Arbenigol Gogledd Cymru wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd â Chlefyd Huntington, a'u teulu a'u gofalwyr. Yn y clinig, gallant roi cyngor ar drin a rheoli symptomau, a chynnig cymorth cymdeithasol ac emosiynol.
Gallant hefyd roi gwybodaeth am Glefyd Huntington a'r ymchwil diweddaraf, gan gynnwys y cyfle i gymryd rhan mewn treialon clinigol os yw'n briodol.
Yn ystod ymweliad â'r clinig, bydd cleifion yn cael archwiliad corfforol, rhai tasgau gwybyddol bach ac ychydig o gwestiynau am sut maent wedi bod yn teimlo. Bydd yr unigolyn ac aelodau'r teulu'n gallu gofyn cwestiynau a thrafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae cyfle hefyd i siarad â Delia Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol HD ar gyfer Gogledd Cymru, sy'n gallu cynnig cymorth a chyngor ar faterion eraill fel mynediad at fuddion, seibiant, offer arbenigol a gofal.
Gan ddibynnu ar anghenion presennol yr unigolyn, gall tîm y clinig gyfeirio at weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol yn brydlon gan sicrhau cysylltiadau agos â gwasanaethau meddygon teulu a CMHT yn y Gymuned.
Mae tîm Clinig Gogledd Cymru yn cynnwys dau Seiciatrydd Ymgynghorol, dau ymchwilydd Cofrestru HD, ysgrifennydd, ac un Ymgynghorydd HD Arbenigol. Gyda'i gilydd, maent yn anelu at roi'r gofal gorau posibl a mynd i'r afael ag anghenion cleifion.
Caiff dau glinig eu cynnal; un yn Tŷ Derbyn yn Wrecsam ac un yn Ysbyty Cymuned Bae Colwyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan HDA Gogledd Cymru.