Rydym yn dymuno sefydlu Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am beth yw Colegau Adfer, sut y gallant fod o fudd i’ch cymuned leol a sut y gallwch ymwneud â hwy.
Mae Coleg Adfer yn ofod lle gall unrhyw un ddod i ddysgu am adferiad iechyd meddwl a lles. Waeth beth fo’r heriau iechyd meddwl, rydym eisiau darparu gofod diogel lle gall defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r gymuned ddod ynghyd i rannu profiadau.
Mae Colegau Adfer yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Maent yn cynnig addysg, cysylltiad a chymorth i bobl sydd wedi profi heriau iechyd meddwl o’r blaen neu sy’n eu profi ar hyn o bryd, yn ogystal â rhieni, gofalwyr, ffrindiau ac anwyliaid, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb.
Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u harwain gan unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl, gan feithrin gobaith, dulliau grymuso, a chysylltiadau ystyrlon.
Mae Colegau Adfer fel arfer yn cael eu lleoli mewn cymunedau lleol neu ar-lein.
Fel rhan o raglen genedlaethol o waith a arweinir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi cael cyllid i gyd-gynhyrchu achos busnes i ddatblygu Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru.
Yn ystod mis Mai 2025, fe wnaethom gynnal arolwg a sesiynau ymgysylltu i aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud am ddatblygu Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru. Mae'r mewnwelediadau a gasglwyd gennym yn cael eu defnyddio i gefnogi ein hachos busnes a'n cynlluniau datblygu.
Rydym yn disgwyl i ddiweddariad pellach gael ei ryddhau yn ystod tymor yr haf 2025, gan fanylu ar gamau nesaf y Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru.
I ddod o hyd i fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Coleg Adfer, cysylltwch â Hannah Mart, Arweinydd Cymheiriaid y Coleg Adfer: Hannah.mart@wales.nhs.uk