Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymarfer corfforol yn newid cemeg eich ymennydd ac yn rhyddhau hormonau “hapus”, sydd yn eu tro’n gallu gwneud i chi deimlo’n fwy cadarnhaol.
Felly mae cadw’n egnïol yn fwy pwysig nag erioed. Gellir gweld y canllawiau diweddaraf trwy'r ddolen ganlynol https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau?_ga=2.234329435.475449824.1595336382-294593203.1591956325
Mae hawl gennych chi i fynd am dro, i redeg, neu i feicio yn yr awyr agored unwaith y dydd, os ydych chi’n cadw pellter o ddwy fetr oddi wrth bobl eraill. Hyd yn oed os nad oes awydd arnoch chi, gwnewch eich gorau i wneud hyn yn rhan o’ch trefn ddyddiol.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Cadw’n egnïol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae cynllunio prydau a byrbrydau iach yn bwysicach nag erioed er mwyn ein cadw’n iach a rhoi hwb i’n system imiwnedd. Yn ogystal â chadw’r pwysau i lawr, mae yfed digon o ddŵr a bwyta deiet cytbwys sy’n cynnwys amrywiaeth o fwydydd yn gallu gwella eich hwyliau hefyd.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Bwyta’n dda gartref Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Efallai eich bod wedi sylwi eich bod yn yfed mwy ers gorfod aros gartref. Gall lleihau faint o alcohol rydyn ni’n ei yfed i gyd-fynd â’r canllawiau cyfredol eich helpu i roi hwb i’ch system imiwnedd, i gysgu mwy ac i wella eich hwyliau. Gall alcohol effeithio ar rai o’ch meddyginiaethau hefyd, a’u rhwystro rhag gweithio’n iawn.
Does dim lefel ‘saff’ o ran yfed alcohol. Felly rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw at y canllawiau cyfredol:
I gael mwy o wybodaeth am sut gallwch chi wirio faint rydych chi’n ei yfed, ac am amrywiaeth o awgrymiadau i’ch helpu chi i leihau faint rydych chi’n ei yfed, dilynwch y ddolen i dudalen Alcohol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae ysmygwyr mewn perygl uwch o ddal COVID-19 gan fod eu hysgyfaint yn wanach, a bod eu dwylo’n dod i gysylltiad â’u ceg yn amlach. Drwy roi’r gorau i ysmygu, gallwch chi wella effeithlonrwydd eich ysgyfaint a rhoi gwell siawns i’ch hun o wella o COVID-19.
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Ysmygu Iechyd Cyhoeddus Cymru.