Mae'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Rydym yn bwriadu sefydlu Coleg Adfer Gogledd Cymru a hoffem glywed eich syniadau a'ch barn er mwyn llywio ein cynlluniau datblygu. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am beth yw Colegau Adfer, sut y gallant fod o fudd i’ch cymuned leol a sut y gallwch gymryd rhan.
Mynediad at wybodaeth am gannoedd o feddyginiaethau iechyd meddwl a ddefnyddir yn gyffredin. Er mwyn cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus, mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn darparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl ac yn ateb cwestiynau pwysig am wahanol fathau o feddyginiaeth e.e. gwybodaeth am unrhyw sgîl-effeithiau a sut mae meddyginiaethau penodol yn rhyngweithio â meddyginiaethau eraill, bwyd a diod.