Neidio i'r prif gynnwy

Siarter Pobl y 3A

Beth y gallwch ei ddisgwyl gan hunanofal tra byddwch yn paratoi am driniaeth:

  • Annog penderfyniadau a ffyrdd iach o fyw i leihau'r risg o ddatblygu salwch
  • Gwybod beth i'w wneud i Atal eich cyflwr rhag gwaethygu
  • Amser paratoi i'ch triniaeth fod yn llwyddiant

Yr Egwyddorion

Cyfathrebu

Mae gwybodaeth ar gael i mi, a chaiff fy anghenion cyfathrebu unigol eu bodloni.

  • Rwy'n gwybod bod fy nghyfeiriad wedi ei dderbyn ac ar ba restr aros yr wyf arni
  • Gallaf ddewis sut mae gwasanaethau'n cyfathrebu gyda mi
  • Rwy’n gwybod sut y gallaf gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i mi wrth aros trwy'r wefan Hunanofal wrth i chi baratoi ar gyfer triniaeth.
  • Gallaf gael mynediad at wybodaeth gyfredol ynghylch fy amser aros
  • Gallaf roi gwybod i’r tîm os yw fy symptomau a’m sefyllfa yn gwella neu’n gwaethygu

Gwneud penderfyniadau ar y cyd

  • Rwy’n deall yr opsiynau sydd ar gael i mi ar gyfer fy nhriniaeth a sut i gael cymorth
  • Mae gen i fynediad at eiriolwr os oes angen
  • Rwyf wedi derbyn digon o wybodaeth i fy helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am fy ngofal a fy nghymorth
  • Mae gen i wybodaeth glir am yr hyn a ddisgwylir i baratoi ar gyfer fy nhriniaeth a fy ngwellhad
  • Mae gen i ddigon o wybodaeth, dealltwriaeth a chymorth i fod yn hyderus fel partner cyfartal yn fy ngofal fy hun

Gwybodaeth

  • Mae gen i fynediad at wybodaeth ac addysg clir, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael yn fy nghymuned i helpu hunanreoli fy hun
  • Mae gen i ymwybyddiaeth o'r opsiynau triniaeth gwahanol sydd ar gael i mi
  • Gallaf gyrchu a deallt y wybodaeth a gyfeiriwyd ataf.
  • Gallaf roi adborth mewn fformat o'm dewis yn ymwneud â'r gwasanaethau rwyf wedi eu defnyddio a pha un sydd wedi gwneud gwahaniaeth
  • Rwy'n deall y rhesymau pam mae angen i mi ddarparu gwybodaeth ac adborth ac rwy'n gwybod am ba reswm y caiff ei defnyddio

Safonau yr ydym yn cadw atynt

Fel Bwrdd Iechyd, byddwn yn cynnal y safonau canlynol, ewch i'n gwefan am rhagor o wybodaeth: