Mae'r rhai sy'n feichiog, y rhai sydd â phlentyn o dan 12 mis oed, a phlant hyd at 4 mlwydd oed sy'n derbyn cerdyn Cychwyn Iach gymwys i gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim.
Mae fitaminiau Cychwyn Iach yn cynnwys fitaminiau A, C a D i blant o'u geni hyd at 4 oed ac asid ffolig a fitaminau C a D i'r rhai sy'n feichiog ac yn bwydo ar y fron.
Mae plant sy’n derbyn talebau Cychwyn Iach yn gymwys i gael fitaminau am ddim o’u genedigaeth tan eu 4ydd pen-blwydd.
Mae’r dos dyddiol o 5 diferyn yn cynnwys:
Nid yw plant sy’n cael 500ml neu fwy o fformwla'r diwrnod angen fitaminau Cychwyn Iach.
Mae’r fitaminau’n addas i lysieuwyr ac nid oes ynddynt laeth, wy, glwten, soia a gweddillion pysgnau, ac maent yn para ar y silff am 15 mis o gael eu cynhyrchu. Mae gan y buddiolwyr hawl i 1 potel o ddiferion plant bob 8 wythnos.
Y dos dyddiol yw 1 dabled, sy’n cynnwys
Mae gennych hawl i un potyn o fitaminau bob wyth wythnos.
Maent yn addas i lysieuwyr ac nid oes ydynt wenith, pysgod, wyau na halen. Dim lliwiau, blasau na chadwolion. Dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten.