Bydd eich corff yn newid yn ystod eich beichiogrwydd, ac mae'n bosibl y bydd rhai newidiadau'n arwain at lid, anghysur a phroblemau iechyd. Mae'r newidiadau hyn i'ch corff yn amrywio. I rai, byddant yn anghyfleus ond i eraill byddant yn broblemau mwy difrifol.
Gallwch reoli llawer o'r materion hyn eich hunan ond dylech sôn am unrhyw beth sy'n eich poeni wrth eich bydwraig neu eich meddyg teulu.