Mae Lleisiau Gynaecoleg yn fforwm amlbroffesiynol, sy'n dod â’r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau gynaecoleg a'r rhai sy'n eu darparu at ei gilydd yn y Bwrdd Iechyd. Mae gan fforwm Lleisiau Gynaecoleg amrywiaeth eang o aelodau sy'n hanu o bob rhan o'r rhanbarth sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau gynaecolegol.
Mae Fforwm Lleisiau Gynaecoleg yn cydweithio â chleifion, clinigwyr a rheolwyr i gydlunio, datblygu a gwerthuso gofal iechyd benywod yng ngogledd Cymru, gan sicrhau ei fod yn effeithlon ac yn effeithiol, a'i fod yn gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a darparwyr gofal iechyd fel ei gilydd.
Mae fforwm Lleisiau Gynaecoleg yn cynnig cyfleoedd hollbwysig a rheolaidd i fenywod a phobl sydd wedi'u pennu'n fenywaidd ar adeg eu geni i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau lleol fel partneriaid cyfartal o ran cynllunio, darparu a gwerthuso'r gwasanaethau gofal iechyd maent yn eu defnyddio ac mae'n rhoi sicrwydd bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Mae fforwm Lleisiau Gynaecoleg yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn croesawu aelodau newydd.
I ymuno â fforwm Lleisiau Gynaecoleg neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: