Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n gwybod os yw darparwr gofal plant wedi ennill Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach?

Mae dewis gofal plant yn benderfyniad hynod bwysig i’r teulu cyfan. Bydd y darparwr gofal plant cywir yn helpu'ch plentyn i ddysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, gan ddiwallu eu holl anghenion o ddydd i ddydd, a chadw'ch plentyn yn ddiogel.

Gall fod yn gysur hefyd i riant neu ofalwr wybod bod y lleoliad y mae’n ei ystyried yn cynnig bwyd a diod sy’n rhoi’r cydbwysedd cywir o egni a maeth i’ch plentyn i sicrhau twf a datblygiad iach, i gyrraedd pwysau iach ac i gynnig amddiffyn rhag rhai afiechydon.

Mae Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn dangos bod darparwr gofal plant wedi ymrwymo i iechyd eich plentyn ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Llywodraeth Cymru (2018). Sut allwch chi ddarganfod a oes unrhyw leoliadau neu warchodwyr plant wedi’u hachredu gan Boliau Bach yn agos atoch chi? Dyma rai adnoddau y gallwch eu defnyddio: