Mae ymarferwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i lunio arferion bwyta a chefnogi plant i fwyta'n dda.
Mae lleoliadau sy'n ennill Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn:
✓ gweithredu’n unol â safonau ansawdd Arolygiaeth Gofal Cymru ar faeth
✓ Bodloni safonau maeth ac iechyd y geg y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn awtomatig
✓ Cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (2018)
✓ Darparu’r cydbwysedd cywir o fwyd a diodydd maethlon i fodloni’r argymhellion deietegol ar gyfer babanod a phlant cyn oed ysgol
✓ Annog plant i fwyta'n dda mewn amgylchedd iach a dysgu am fwyd
✓ Hyrwyddo cysondeb negeseuon maeth ac annog cyfleoedd i gyfathrebu’r negeseuon hyn i deuluoedd
✓ Dangos i deuluoedd eu bod wedi ymrwymo i iechyd plant cyn oed ysgol drwy eu hannog nhw i fabwysiadu arferion bwyta da a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddeiet cytbwys iach
✓ Sicrhau bod o leiaf un aelod o staff wedi'i hyfforddi mewn maeth blynyddoedd cynnar gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus
✓ Gallu arddangos y logo Boliau Bach i rieni a theuluoedd ei weld
I ddarganfod sut mae bod yn ddarparwr gofal plant achrededig Boliau Bach hefyd o fudd i blant yn eich gofal a'u teuluoedd, ewch i pam dewis darparwr gofal plant achrededig Boliau Bach i'ch plentyn? - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru).
I ddarganfod mwy am wobr Arfer Gorau Boliau Bach a sut i gychwyn eich cais ewch i Sut gall darparwr gofal plant wneud cais am wobr Arfer Gorau Boliau Bach?