Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae bwyta'n iach yn bwysig i blant mewn lleoliad gofal plant?

Mae angen i blant fwyta'r cydbwysedd cywir o egni a maetholion er mwyn sicrhau twf a datblygiad iach, i gadw pwysau iach ac i amddiffyn rhag clefydau penodol. Er mwyn helpu plant i ddatblygu patrymau bwyta iach o oedran cynnar, mae’n bwysig bod y patrymau bwyta a’r bwyd y maent yn ei brofi (yn y cartref a’r tu allan i’r cartref) yn rhai sy’n hybu agweddau cadarnhaol a mwynhad o fwyd da. Gall y lleoliad gofal plant chwarae rhan bwysig yn hyn o beth, trwy ddarparu bwyd maethlon o safon i'r plant yn eu gofal.

Mae darparu deiet iach a chytbwys i blant ifanc a diodydd sy’n gofalu am y dannedd yn hanfodol er mwyn:

  • Sicrhau eu bod yn cael y swm cywir o egni a maetholion yn ystod cyfnod o dwf a datblygiad cyflym
  • Annog plant i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd, oherwydd mae arferion a fabwysiedir yn ifanc yn fwy tebygol o gael eu dilyn mewn plentyndod hwyrach ac yn eu bywyd fel oedolion
  • Dylanwadu ar hoffterau bwyd ar adeg pan fo plant yn dechrau cael llais pendant wrth ddewis bwyd
  • Datblygu a chadw pwysau iach
  • Helpu i leihau'r risg bydd eu dannedd yn pydru
  • Helpu i atal diffyg haearn
  • Hybu iechyd y coluddyn a lleihau'r risg o rwymedd

Wyddoch chi...bod angen i tua 90% o'r egni a'r maetholion a argymhellir ar gyfer plant sy'n mynychu gofal dydd llawn ddod o'r bwyd a diod a gynigir gan y darparwr gofal. Mae'n bwysig felly bod y lleoliadau hyn yn darparu ystod o fwydydd maethlon yn ogystal â’r meintiau cywir.

Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau da am fwyta'n iach i blant 1 – 4 oed ewch i dudalen we Hwb Cychwyn Gorau .