Neidio i'r prif gynnwy

Pam dewis darparwr gofal plant achrededig Boliau Bach ar gyfer eich plentyn?

Mae’r blynyddoedd cynnar a phlentyndod yn adegau hollbwysig o ran datblygiad ac yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer dyfodol a lles eich plentyn. Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i lunio arferion bwyta ac i gefnogi eich plentyn i fwyta'n dda.

Mae gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn gynllun sydd ar gael i bob darparwr gofal plant cofrestredig ar draws Gogledd Cymru. Mae’n dangos bod darparwr gofal plant wedi ymrwymo i iechyd a lles eich plentyn ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (2018).

Bydd darparwr gofal plant achrededig Boliau Bach yn helpu eich plentyn:

✓ I sefydlu arferion bwyta da, a all barhau yn y cartref

✓ I gael y cydbwysedd a'r ystod gywir o faetholion sydd eu hangen ar gyfer twf a datblygiad iach

✓ I fwynhau rhoi cynnig ar fwydydd newydd gyda ffrindiau

✓ I ddysgu negeseuon cyson am fwyd a diod

✓ I leihau niwed i'w dannedd trwy ddarparu diodydd llaeth a dŵr sy’n gyfeillgar i'r dannedd yn unig

✓ I ddatblygu a chynnal pwysau iach

✓ Bod yn llai tebygol o ddatblygu anemia diffyg haearn a rhwymedd

Mae gan bob darparwr gofal plant achrededig Boliau Bach o leiaf un aelod o staff sydd wedi mynychu hyfforddiant gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus ar faeth plant.

Gallwch weld rhestr o ddarparwyr gofal plant achrededig Boliau Bach yn eich ardal ar Gofrestr Boliau Bach .