Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach i blant 0 - 1 oed

Mae cyflwyno bwydydd addas i fabanod yn bwysig ar gyfer datblygiad corfforol a chymdeithasol ac ar gyfer bodloni anghenion maeth. Wrth i fabi dyfu, felly hefyd fydd ei anghenion maeth. Erbyn i fabi gyrraedd 6 mis oed, maent yn tyfu ac yn datblygu'n gyflym ac mae angen mwy o egni a maetholion arnynt nag y gall llaeth yn unig ei ddarparu. Mae angen iddynt ddechrau bwyta bwydydd solet i gynnal eu hanghenion cynyddol. Hwn yw’r amser allweddol i gyflwyno babanod i ystod o flasau a gweadau wrth iddynt gychwyn ar eu taith i brydau iach gyda’r teulu.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno bwydydd solet, ewch i'r adran 'Chi a'ch Babi' yn Hwb Dechrau Gorau BIPBC.

Mae darparwyr gofal plant yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gyflwyno i fabanod, a gall hyn lywio arferion bwyta yn y dyfodol ac felly hefyd eu hiechyd maes o law. Trwy gynnig bwyd maethlon ac annog babanod i fwyta'n dda, gall lleoliadau helpu plant i ddiwallu eu hanghenion maethol a chadw pwysau iach wrth iddynt dyfu. Os yw babanod yn dechrau bwyta bwyd solet pan fyddant yn mynychu lleoliad, mae'n hanfodol bod gofalwyr yn gweithio'n agos gyda theuluoedd i sicrhau bod cysondeb rhwng arferion y cartref a'r lleoliad. Bydd cyfathrebu da ac arfer diogel yn helpu i gefnogi'r daith hon i'w wneud yn brofiad haws a mwy pleserus i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y Wobr Arfer Gorau Boliau Bach i blant 0-1 oed ac 1-4 oed, ewch i wobr Arfer Gorau Boliau Bach.