Mae babanod yn rholio sy'n golygu bod risg y gallant gael niwed wrth rolio oddi ar welyau, soffas a byrddau newid.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i atal eich babi rhag cael anaf:
- Os gallwch chi, newidiwch glwt eich babi ar y llawr gan ddefnyddio mat newid.
- Peidiwch byth â gadael eich babi heb ei oruchwylio oherwydd gall rolio oddi ar soffas, byrddau newid a gwelyau.
- Peidiwch byth â rhoi seddi ceir babanod neu grud ar ben soffas, byrddau, neu arwynebau gwaith, rhowch nhw ar y llawr rhag ofn i’r babi lwyddo i’w symud dros yr ymyl.
- Wrth gario'ch babi i fyny ac i lawr y grisiau, daliwch y canllaw bob amser rhag ofn i chi faglu. Gwnewch yn siŵr hefyd nad oes unrhyw beryglon baglu ar y grisiau.
- Wrth brynu cerddwr babi, gwiriwch ei fod yn cydymffurfio â Safon Brydeinig BS EN 1273:2005.
- Gwyliwch ble rydych chi'n cerdded tra'ch bod chi'n cario'ch babi, mae'n hawdd baglu dros bethau fel teganau.
- Defnyddiwch harnais 5 pwynt bob amser pan fydd eich plentyn yn ei gadair uchel neu bram.
Babanod sy'n cropian
Pan fydd eich babi yn dechrau cropian bydd yn ceisio dringo ar ddodrefn fel soffa a byrddau coffi.
Rhai awgrymiadau am atal anaf i fabanod sy'n cropian:
- Gosodwch giatiau diogelwch ar ben ac ar waelod y grisiau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cau'r giatiau yn iawn y tu ôl i chi.
- Os yw’r bwlch rhwng pyst canllaw eich grisiau neu rheiliau’r balconi yn fwy na 6.5cm (2.5 modfedd) o led, gorchuddiwch nhw â rhwydi diogelwch neu fyrddau.
- Os oes gennych chi unrhyw ddodrefn isel, cadwch y rhain oddi wrth ffenestri a gwnewch yn siŵr bod cloeon neu ddalfeydd diogelwch wedi'u gosod arnynt.
- Tynnwch unrhyw deganau a bymperi crud o'r crud gan y gall eich babi ddringo arnynt a dringo allan o'r crud.
Plant bach
Pan fydd babanod yn dechrau cerdded, maent yn simsan ac yn dueddol o faglu a syrthio.
Dyma rai awgrymiadau i rieni ar gyfer atal anafiadau i blant bach:
- Defnyddiwch giatiau diogelwch ar ben a gwaelod y grisiau nes bod eich plentyn yn 2 oed.
- Dechreuwch ddangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio grisiau, ond peidiwch byth â gadael iddo eu defnyddio ar ei ben eu hun, rhowch gymorth bob amser.
- Sicrhewch fod plentyn sy’n cysgu mewn gwely uchel (bync) o leiaf 6 oed gan fod risg i blentyn iau syrthio allan ohono.
- Os oes gennych unrhyw ddodrefn isel, cadwch y rhain oddi wrth ffenestri a gwnewch yn siŵr bod cloeon neu ddalfeydd diogelwch wedi'u gosod arnynt.
- Defnyddiwch harnais 5 pwynt bob amser pan fydd eich plentyn yn ei gadair uchel neu bram.
- Cadwch siswrn, cyllyll a gwrthrychau miniog allan o gyrraedd plant bob amser.
- Er mwyn atal bysedd eich plentyn rhag mynd yn sownd mewn drysau, gosodwch ddyfeisiau atal ar y drysau, cofiwch gau drysau yn y nos rhag ofn tân.
- Defnyddiwch amddiffynwyr cornel ar unrhyw ddodrefn gyda chorneli miniog i atal eich plentyn rhag brifo.
Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau