Mae llawer ohonom yn credu bod babi yn gadael i ni wybod eu bod yn llwglyd drwy grio. Fodd bynnag, bydd adnabod y ciwiau bwydo cynnar cynnil cyn i’r babi grio yn helpu eich profiad bwydo.
Mae enghreifftiau o giwiau bwydo cynnar yn cynnwys:
Mae bwydo babi cyn iddynt grio, pan maen nhw'n dangos y ciwiau bwydo cynnar hyn, yn llawer haws nag aros hyd nes iddynt gynhyrfu.
Mae dysgu am ac adnabod y ciwiau cynnil defnyddiol hyn yn llawer haws pan mae'r babi gyda chi.
Bydd cadw eich babi yn agos atoch i ddechrau yn eich helpu i adnabod pan fo ar eich babi angen bwydo a gweld patrwm fel y mae'n raddol ffurfio.
I ddechrau gall patrwm bwydo babi amrywio'n sylweddol, fel y maen nhw'n ysgogi eich cyflenwad o laeth y fron.
Fe allwch brofi ysbeidiau byrrach rhwng rhai ffîdiau, yn enwedig yn y nos (gelwir hyn yn 'fwydo clwstwr' weithiau) ac ysbeidiau hirach ar adegau eraill, fodd bynnag, mae hi'n arferol i fwydo babi ar y fron o leiaf 8 gwaith mewn cyfnod o 24 awr.
Fe all pob bwydo ar y fron hefyd bara hyd amrywiol o amser - yn union fel ni, gall archwaeth babi amrywio trwy gydol y dydd hefyd.