Os ydych yn cael trafferth i fwydo eich babi ar y fron, cofiwch fe all bwydo ar y fron fod y dull naturiol i fwydo babi ond mae’n sgil sydd angen cael ei dysgu gan y ddau ohonoch. Fel y rhan fwyaf o bethau, ni allwch chi ddisgwyl ei wneud yn iawn yn syth.
Siaradwch â mamau eraill sy'n bwydo ar y fron a Chyfeillion Cefnogol yn y grwpiau bwydo ar y fron a thrwy ein grwpiau lleol Facebook "ffrindiau bwydo ar y fron". Gallwch hefyd gysylltu â'ch Bydwraig/ Ymwelydd Iechyd am gyngor. Cofiwch fod staff hyfforddedig ar draws Gogledd Cymru a fydd yn gallu eich cefnogi chi i ddal ati i fwydo ar y fron.
Os ydych yn meddwl am roi’r gorau i fwydo ar y fron, cyn gwneud y penderfyniad ystyriwch:
Yn olaf, os ydych wedi gorfod stopio bwydo ar y fron, cofiwch fod unrhyw faint o fwydo ar y fron yn dda i chi a'ch babi.
Mae rhesymau i fod yn falch hyd yn oed os ydych ond yn gallu bwydo ar y fron am gyfnod byr. Cliciwch yma am ddadansoddiad o'r manteision iechyd bendigedig rydych yn eu rhoi i'ch babi o'r ffîd gyntaf hyd at 1 flwyddyn neu fwy.
Os ydych yn teimlo'n isel neu’n ofidus, siaradwch â'ch Gweithiwr Iechyd Proffesiynol a fydd yn gallu eich cefnogi chi.
Dywedodd Belinda Phipps o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant: "Oherwydd bod y manteision yn dechrau yn syth o'r ffîd gyntaf, mae unrhyw faint o fwydo ar y fron yn rheswm dros deimlo'n falch".