Mae llawer o famau yn dewis parhau i fwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i’r gwaith gan ei bod yn ffordd wych o gynnal cyswllt agos â'u babi ar adeg o wahanu, tra hefyd yn parhau i amddiffyn eu hiechyd eu hunain a'u babi yn sylweddol.
Fe all eich dychweliad i’r gwaith fod y tro cyntaf rydych wedi bod oddi wrth eich babi am gyfnod hir o amser, ac mae llawer o famau yn eithaf naturiol yn gweld bod hwn yn gyfnod pryderus. Mae parhau i fwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i’r gwaith yn ffordd wych o ailgysylltu â'ch babi ar ôl diwrnod gwaith prysur. Fe all cofleidiau arbennig bwydo ar y fron ar ôl y gwaith eich helpu chi’ch dau i addasu i'r bennod newydd hon yn eich bywydau.
Mae'r dudalen hon yn anelu at ddarparu arweiniad a chefnogaeth i chi i'ch helpu i gynllunio’r hyn sydd orau i chi a'ch babi. Rhowch amser i chi eich hun ystyried eich sefyllfa bersonol, ystyried yr opsiynau sydd ar gael i chi a chofiwch, gall trafod hyn gyda'ch Ymwelydd Iechyd neu’ch Cyfaill Cefnogol Bwydo ar y fron fod yn ddefnyddiol iawn hefyd.
Pan fyddwch yn barod i ddechrau cynllunio eich dychweliad i’r gwaith, mae’n syniad da siarad â'ch cyflogwr ynghylch eich penderfyniad i barhau i fwydo ar y fron.
Os yw cyfleusterau gofal plant yn agos i'r gwaith, efallai y bydd yn bosibl trefnu eich egwyl fel y gallwch bicio allan i fwydo eich babi, neu gellid dod â'ch babi i'ch gweithle i’w fwydo.
Fe allech benderfynu darparu llaeth wedi ei wasgu allan i'ch meithrinfa neu warchodwr plant, neu wasgu llaeth allan yn y gwaith, ei oeri a'i gludo mewn cynhwysydd wedi ei sterileiddio mewn bag oeri. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’ch gweithle ddarparu cyfleusterau addas i chi orffwyso tra rydych yn gwasgu llaeth allan neu ystafell tra'n bwydo ar y fron. Dylent ddarparu ystafell lle gallwch wasgu llaeth allan ac oergell lle gallwch storio eich llaeth.
Os ydych yn gwasgu llaeth allan yn ystod y dydd pan fyddwch yn y gwaith, byddwch yn dal i allu bwydo ar y fron pan fyddwch chi a'ch babi gartref gyda'ch gilydd. Bydd eich corff yn addasu’n fuan.
O tua chwe mis, gall babi newid yn rhwydd i ddefnyddio cwpan neu fîcer, mae'n rhan naturiol o ddatblygiad babi, felly nid oes angen cyflwyno potel!
Bydd gwneud eich cyflogwr yn ymwybodol o'ch bwriadau yn rhoi amser iddyn nhw baratoi ardal addas fydd yn cwrdd â'ch anghenion, yn gwneud yn siŵr y gallwch fwydo ar y fron neu wasgu llaeth allan mewn amgylchedd glân a phreifat.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am hawliau mamolaeth a bwydo ar y fron ar ddychwelyd i’r gwaith ar wefan Maternity Action website.
Gallwch wasgu llaeth allan â llaw, drwy ddefnyddio pwmp llaw neu un trydan. Mae’n syniad da siarad a dysgu gan famau eraill, eich Ymwelydd Iechyd a Chyfeillion Cefnogol Bwydo ar y fron.
Mae rhai mamau yn dechrau gwasgu llaeth allan yn gynt gyda'r nod o adeiladu stôr o laeth wedi ei wasgu yn y rhewgell. Mae'n well gan rai mamau i'w babi gael fformiwla yn y lleoliad gofal plant ond yn bwydo ar y fron fel arfer gartref. Eich penderfyniad chi ydyw. Os ydych yn cynllunio i wasgu llaeth allan i'ch babi tra byddwch yn y gwaith, dechreuwch ymarfer tua 1-2 wythnos cyn i chi ddychwelyd i'r gwaith.
Bydd sut y caiff eich babi ei fwydo tra rydych ar wahân yn dibynnu faint yw oed eich babi pan ddychwelwch i'r gwaith a pha mor hir mae'r cyfnodau o wahanu yn debygol o fod.
Gall fod o gymorth i aelod arall o'r teulu fod ynghlwm yn y broses o gyflwyno dull arall o fwydo gan y gall y babi ddod yn ofidus neu'n ddryslyd pan fo mam yn ceisio gwneud hyn.
Bydd parhau i fwydo ar y fron ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith yn eich helpu chi a'ch babi i wneud y canlynol:
Gellir canfod gwybodaeth ac arweiniad i gyflogwyr i'w helpu i gefnogi gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith o absenoldeb mamolaeth ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.