Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a gwybodaeth bwydo ar y fron

Peidiwch â phoeni os ydych yn gweld bod pethau yn anodd - mae cymorth ar gael ar draws Gogledd Cymru.

Cysylltu â'ch Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd

Siaradwch yn gyntaf bob amser â'ch Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd os oes angen cymorth neu gefnogaeth gyda bwydo ar y fron.

Cyfeillion Cefnogol Bwydo ar y Fron a Grwpiau Facebook

Mae'r rhain yn Gyfeillion Cefnogol hyfforddedig (mamau sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig i roi cymorth i famau eraill o fewn eu cymunedau), grwpiau lleol wyneb i wyneb i famau a babanod newydd a grwpiau lleol Facebook "ffrindiau bwydo ar y fron". Gallwch ymuno â'r grwpiau Facebook hyn tra rydych yn feichiog.

Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron

Gallwch siarad â Chwnselydd Bwydo ar y Fron hyfforddedig ar y Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron 0300 100 0212 (mae fersiwn iaith Gymraeg ar gael hefyd). 

Cyrsiau am ddim i rieni a gofalwyr

Mae cyrsiau rhianta ar-lein Solihull yn cefnogi'r HOLL ddarpar rieni, rhieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr unrhyw blentyn o’r adeg cyn iddynt gael eu geni hyd at 18 mlwydd oed.

Cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Mae llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael, felly peidiwch â bod ofn gofyn! Bydd manteision bwydo ar y fron yn para oes i chi a'ch babi.