Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn RSV

Mae feirws synyctiol anadlol (RSV) yn effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i blant ifanc

O fis Medi 2024, bydd brechlyn rhag RSV yn cael ei gynnig i ferched sy'n feichiog ers 28 wythnos neu fwy. Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn eich babi newydd rhag RSV pan fydd ar ei fwyaf agored i’r feirws.

Sut byddwch chi'n cael eich brechlyn

Bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu atoch i gynnig apwyntiad i chi gael y brechlyn yn un o'n clinigau brechu, neu efallai y bydd yn cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad.

Os cewch chi eich babi ym mis Medi, ac nad ydych chi eisoes wedi cael y brechlyn, mae'n bosibl y bydd ein tîm yn cynnig brechlyn rhag RSV i chi. Bydd hyn yn helpu i roi rhywfaint o amddiffyniad i'ch babi newydd trwy leihau'r tebygolrwydd y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo iddo.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich brechlyn rhag RSV, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol neu (os ydych chi yn un o'n hunedau mamolaeth) â bydwraig. Os nad ydych chi wedi derbyn apwyntiad neu fod angen newid eich apwyntiad, cysylltwch â'n Llinell Gyswllt Brechu RSV, ffonio 03000 846789

Mae'r brechlyn wedi'i brofi a'i dreialu'n llawn, ac mae'n ddiogel ac yn effeithiol i'ch babi a chi. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd ledled y byd a dangoswyd ei fod yn lleihau nifer y plant ifanc sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd RSV yn sylweddol. 

Manteisiwch ar y cynnig i amddiffyn eich hun a'ch babi rhag y risg o salwch difrifol sy'n cael ei achosi gan RSV.

 

Brechlyn rhag pertwsis (y pâs), y ffliw a COVID-19

Bydd merched hefyd yn cael cynnig brechlyn rhag pertwsis (y pâs), a brechlyn atgyfnerthu rhag ffliw tymhorol a COVID-19 yn ystod eu beichiogrwydd. Bydd y rhain yn helpu i'w hamddiffyn nhw a'u babanod rhag cymhlethdodau a salwch difrifol. 

Os nad ydych chi eisoes wedi cael y brechlynnau hyn yn ystod eich beichiogrwydd, mae'n bosibl y byddant yn cael eu cynnig yn ystod eich apwyntiad brechu rhag RSV. 

 

Rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag RSV