Diweddarwyd 20 Mawrth 2026
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion a amheuir o lid yr ymennydd nac achosion wedi’u cadarnhau yng Ngogledd Cymru nac mewn mannau eraill yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r brigiad yng Nghaint
Mae gwybodaeth ddiweddaredig am y brigiad yng Nghaint ar gael gan Asiantaeth Diogelu Iechyd y DU (Saesneg yn unig).
Ni chynigir brechiadau rhag Llid yr Ymennydd B fel mater o drefn i blant dros ddwy oed nac oedolion drwy'r GIG yng Nghymru. Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa, ein canolfannau brechu neu ein timau imiwneiddio ysgolion i ofyn am y brechlyn.
Rydym yn argymell y dylai pobl ifanc, rhieni a theuluoedd ymgyfarwyddo ag arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis. Gall y cyflyrau hyn ddatblygu'n gyflym a gall symptomau ysgafn droi’n salwch difrifol. Mae babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc (yn enwedig y sawl sydd mewn lleoliadau ble ceir cyswllt agos megis colegau a phrifysgolion) yn wynebu mwy o berygl.
Gall myfyrwyr sy’n byw ar Gampws Caergaint Prifysgol Caint yn ystod y tymor ond sydd bellach wedi dychwelyd adref i Ogledd Cymru, fynd i feddygfa yng Ngogledd Cymru i gael gwrthfiotigau ataliol a’r brechiad MenB.
Gall myfyrwyr eraill yn ardal Caergaint sydd wedi cael cyngor i gymryd gwrthfiotigau oherwydd cyswllt agos, neu unrhyw un a fu yng Nghlwb Chemistry yng Nghaergaint rhwng 5 Mawrth ac 16 Mawrth, hefyd fynd i feddygfa yng Ngogledd Cymru i gael gwrthfiotigau a’r brechiad.
Gall llid yr ymennydd bacteriol gael ei achosi gan nifer o wahanol fathau o facteria. Mae sawl brechiad yn yr amserlen brechiadau rheolaidd yng Nghymru yn cynnig amddiffyniad rhag llid yr ymennydd.
I sicrhau’r amddiffyniad gorau rhag salwch y gellir ei atal, mae'n hanfodol sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu holl frechiadau.
Mae brechiadau'r GIG a gynigir yng Nghymru yn seiliedig ar argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru. Mae manylion amserlen brechiadau arferol Cymru ar gael yma.
Adolygir y dudalen hon yn rheolaidd a chaiff ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.