Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i fabanod a blant cyn oed ysgol

Bydd babanod a blant cyn oed ysgol yn cael brechiadau arferol i'w hamddiffyn rhag afiechydon 

Pan fydd plant ifanc dyfu a chymdeithasu mae'r risg o drosglwyddo clefydau y gellir eu hatal yn cynyddu – ac mae mwy o risg o achosion. Mae gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei holl frechiadau yn helpu i’w amddiffyn hwy, aelodau sy’n agored i niwed o’ch teulu, a’r gymuned yn ehangach.

Bydd apwyntiadau arferol yn cael eu trefnu ar gyfer eich plentyn pan fydd yn wyth wythnos, 12 wythnos, 16 wythnos, yn union wedi ei ben-blwydd cyntaf, o gwmpas 18 mis, a phan fyddant yn dair blwydd a phedwar mis oed. Bydd plant dwy a thair blwydd oed hefyd yn cael eu galw am frechiad rhag y ffliw bob hydref.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu'r apwyntiadau. Os ydych chi wedi methu apwyntiad neu frechiad, cofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr. Cysylltwch â’ch meddygfa neu ymwelydd iechyd am gyngor.

Mae rhagor o fanylion am y brechiadau y mae eu hangen ar eich plentyn ym mhob apwyntiad ar gael isod.
 

Newidiadau i'r amserlen brechiadau rheolaidd

Daeth newidiadau i'r amserlen brechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru i rym ar 1 Gorffennaf 2025 a 1 Ionawr 2026. Mae'r tudalennau hyn yn adlewyrchu'r amserlen wedi'i diweddaru.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y brechlynnau y dylai eich plentyn eu cael, gweler rhagor o wyodaeth am y newidiadau sydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu siaradwch â nyrs y practis yn eich meddygfa neu'ch ymwelydd iechyd.

 

8 wythnos

 

12 wythnos

 

16 wythnos

 

O 6 mis

Bob hydref, bydd plant rhwng chwe mis a dwy flwydd oed â chyflwr iechyd hirdymor yn cael cynnig brechlyn ffliw tymhorol yn eu meddygfa. Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant sy'n fwy agored i niwed rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy'n gysylltiedig â'r ffliw. 

Os yn gymwys, efallai y bydd plantyn chwe mis oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn cael cynnig brechlynnau tymhorol rhag COVID-19.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.

 

12 i 13 mis

 

18 mis

 

O 2 blynedd

Bob hydref, bydd pob plentyn dwy a thair oed (oed ar Awst 31) yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen yn eu meddygfa. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.

 

3 blynedd a 4 mis

I sicrhau eu bod yn derbyn yr amddiffyniad gorau posibl yn erbyn difftheria, tetanws, y pâs a pholio cyn iddynt ddechrau’r ysgol, bydd plant tair blwydd a phedwar mis oed yn cael eu galw ar gyfer apwyntiad ym meddygfa eu meddyg teulu.