Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i fabanod

Yn ystod eu blwyddyn gyntaf, bydd babanod yn cael brechiadau arferol i'w hamddiffyn rhag afiechydon — mae sicrhau bod eich plant yn cael eu brechiadau yn eu hamddiffyn nhw, eich teulu chi a'r gymuned yn ehangach

Bydd apwyntiadau arferol yn cael eu hanfon atoch chi pan fydd eich plentyn yn 8 wythnos, 12 wythnos, 16 wythnos a rhwng 12 a 13 mis oed. Mae angen dwy neu dair dos i rai brechlynnau fod yn gwbl effeithiol. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu'r apwyntiadau. Os ydych chi wedi methu apwyntiad neu frechiad, cofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr. Cysylltwch â’ch meddygfa neu ymwelydd iechyd am gyngor.

Mae rhagor o fanylion am y brechiadau y mae eu hangen ar eich plentyn ym mhob apwyntiad ar gael isod.
 

Newidiadau i'r amserlen brechiadau rheolaidd

Daeth newidiadau i'r amserlen brechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru i rym ar 1 Gorffennaf 2025. Mae'r tudalennau hyn yn adlewyrchu'r amserlen bresennol.

Caiff rhagor o newidiadau eu gwneud o 1 Ionawr 2026.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y brechlynnau y dylai eich plentyn eu cael, gweler rhagor o wyodaeth am y newidiadau sydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu siaradwch â nyrs y practis yn eich meddygfa neu'ch ymwelydd iechyd.

 

8 wythnos

 

 

12 wythnos

 

 

16 wythnos

 

 

12 i 13 mis

 

 

Brechlynnau eraill

Bob hydref, bydd plant rhwng chwe mis a dwy flwydd oed â chyflwr iechyd hirdymor yn cael cynnig brechlyn ffliw tymhorol yn eu meddygfa. Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant sy'n fwy agored i niwed rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy'n gysylltiedig â'r ffliw. Os yn gymwys, efallai y bydd plantyn chwe mis oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn cael cynnig brechlynnau tymhorol rhag COVID-19.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.