Mae'n bwysig bod plant yn cael brechiadau atgyfnerthu cyn iddynt ddechrau'r ysgol
Pan fydd plant ifanc yn dechrau cymysgu fwy, mae'r risg o drosglwyddo clefydau y gellir eu hatal yn cynyddu - ac mae mwy o risg o achosion. Mae sicrhau bod eich plant y cael eu brechiadau atgyfnerthu yn eu hamddiffyn nhw, y chi, eich teulu chi a'r gymuned yn ehangach.
Fel arfer gelwir ar blant tair blwydd a phedwar mis oed i gael y brechiadau hyn. Bydd pob plentyn dwy a thair oed hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen bob hydref.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu'r apwyntiadau. Os ydych chi wedi methu apwyntiad neu frechiad, cofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr. Cysylltwch â’ch meddygfa neu ymwelydd iechyd am gyngor.
Daeth newidiadau i'r amserlen brechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru i rym ar 1 Gorffennaf 2025. Mae'r tudalennau hyn yn adlewyrchu'r amserlen bresennol.
Caiff rhagor o newidiadau eu gwneud o 1 Ionawr 2026.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y brechlynnau y dylai eich plentyn eu cael, gweler rhagor o wyodaeth am y newidiadau sydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu siaradwch â nyrs y practis yn eich meddygfa neu'ch ymwelydd iechyd.
Bydd plant tair blwydd a phedwar mis oed yn cael eu galw i'w meddygfa.
Bob hydref, bydd pob plentyn dwy a thair oed (oed ar Awst 31) yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen yn eu meddygfa. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed. Os yn gymwys, efallai y bydd plantyn sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn cael cynnig brechlynnau tymhorol rhag COVID-19.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.