Neidio i'r prif gynnwy

Llunio Dyfodol Ysbyty Llannerch Banna

Cafodd y gwelyau i gleifion mewnol yn Ysbyty Llannerch Banna eu cau dros dro ym mis Rhagfyr 2024 oherwydd pryderon ynghylch cynaliadwyedd y model gofal a heriau parhaus ynghylch staffio. Yn hanesyddol, mae Ysbyty Llannerch Banna wedi rhoi gofal i gleifion sy'n ddigon iach i adael prif ysbyty ond nad ydynt eto yn barod i fynd adref.

Mae nifer y cleifion sy'n addas ar gyfer y math hwn o ofal wedi bod yn gyfyngedig, ac mae anawsterau parhaus o ran recriwtio a dibynnu ar staff dros dro wedi'i wneud yn fwyfwy anodd cynnig gofal diogel a chynaliadwy.

Rydym bellach yn dechrau ar y cam nesaf o ymgysylltu â'r gymuned leol. Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda thrigolion, staff, a phartneriaid i lunio dyfodol gwasanaethau yn Llannerch Banna - gan gynnwys adolygu'r heriau, gwrando ar yr hyn sydd bwysicaf, ac ystyried senarios amrywiol i gynnig gofal sy'n ddiogel, o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy.

Ar ôl casglu adborth gan y gymuned, bydd y Bwrdd Iechyd yn datblygu opsiynau a'i nod yw gwneud penderfyniad yn ystod cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2025.

Yr Hyn yr ydym wedi'i Glywed hyd Yma

Mae cannoedd o bobl wedi rhannu eu barn gyda ni eisoes trwy'r arolwg cychwynnol. Mae'r adborth hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu i lunio cam nesaf y gwaith - mae sicrhau ein bod wedi clywed yn uniongyrchol gan y gymuned yn sail i sut y byddwn yn symud ymlaen.

Sut y Gallwch chi Gymryd Rhan

Rydym bellach yn dechrau cyfarfod â grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi'n gwahodd i ddod i glywed eu barn, a byddwn yn parhau i estyn allan dros yr wythnosau sydd i ddod.

Rydym hefyd yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna - yn benodol y rhai sydd wedi bod yn glaf mewnol neu sydd wedi cefnogi rhywun yno. Mae'ch straeon a'ch profiadau yn hynod werthfawr o ran ein helpu i ddeall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, beth mae angen i ni ei wella, a'r hyn y mae pobl yn awyddus i'w gael yn y dyfodol.

Megis dechrau yw hyn. Bydd mwy o gyfleoedd i ddweud eich dweud wrth i'r gwaith symud yn ei flaen. Rydym am i hon fod yn sgwrs barhaus.

Dweud eich Dweud

I ategu'r cam hwn, rydym yn gwahodd pobl leol, staff, a grwpiau sydd â diddordeb i gymryd rhan mewn arolwg byr. Bydd eich adborth yn helpu i lywio'r ystyriaethau cynnar a bydd yn sail i ddatblygu opsiynau cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.

Caiff yr holl ymatebion i'r arolwg, nodiadau cyfarfod, a straeon personol eu hadolygu'n ofalus a byddant yn sail i'r cynigion y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu datblygu

Cwblhewch yr arolwg: Arolwg Llannerch Banna.

Rhannwch eich stori: Os ydych wedi bod yn glaf mewnol neu wedi cefnogi rhywun yn Ysbyty Llannerch Banna, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi. Cysylltwch â ni ar BCU.GetInvolved@wales.nhs.uk fel y gallwn gofnodi eich profiad byw.

Cysylltu â ni: Os hoffech glywed mwy a derbyn diweddariadau uniongyrchol wrth i'r gwaith hwn symud yn ei flaen, rhowch wybod i ni. Byddem yn fwy na pharod i roi diweddariadau cyson i chi ac i rannu cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan. Tanysgrifiwch i e-newyddlen y Bwrdd Iechyd yma.

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r hyn y mae'r gymuned yn ei ddweud wrthym ac yn esbonio sut mae hynny'n dylanwadu ar ein cynlluniau ni. Bydd eich cyfraniad chi'n ganolog i'r opsiynau a gaiff eu cyflwyno i'r Bwrdd. Byddwn yn rhoi diweddariadau cyson i chi drwy'r cyfan - gan gynnwys rhannu'r penderfyniad terfynol a'r rhesymau sydd ynghlwm wrtho. Fel hyn, byddwch yn gweld yn glir sut mae'ch llais wedi dylanwadu ar y canlyniad.

Diolch am ein helpu i lunio dyfodol gofal yn Llannerch Banna.

Adnoddau i’w lawrlwytho