Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau

Yma fe welwch wybodaeth am ddigwyddiadau cyhoeddus a drefnir gan y Bwrdd Iechyd

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod!

Rydym yn falch o gael ymuno â’n partneriaid ar stondin GIG Cymru Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) (rhif 215-216) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, 2-9 Awst! 

Dewch i gyfarfod â ni er mwyn canfod sut rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, ac eraill i wella iechyd a lles ar draws Gogledd Cymru.

Galwch heibio i rannu eich barn a’ch syniadau. Mae’ch safbwyntiau a’ch profiadau chi’n bwysig. Gadewch i ni lunio gofal gwell, gyda’n gilydd.

Hefyd, gallwch fwynhau gweithgareddau hwyliog a chael gwybod sut rydym ni’n gwneud gwahaniaeth. Peidiwch â’i golli!

Gallwch ddysgu am:
🔹 Ddementia a gwasanaethau pobl hŷn
🔹 Niwroamrywiaeth a gwasanaethau plant
🔹 Anableddau dysgu
🔹  Mwy Na Geiriau
🔹 Iechyd a gofal digidol
🔹 Y gweithlu iechyd a gofal

…a llawer mwy!


Cam Wrth Gam CAMHS

Wythnos i fynd!

Gyda dim ond wythnos i fynd tan y daith gerdded gyntaf, rydym wedi cyffroi ac yn teimlo'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a welsom gan ein cymunedau lleol, ein staff a’n partneriaid. Gallwch ymuno â'r tîm ar eu taith gerdded arfordirol #CamwrthGamCAMHS ar draws Gogledd Cymru o hyd drwy gofrestru.

Pryd a Lle

  • 14 Awst yn Wrecsam (taith gerdded gylchol – 10 milltir)
  • 15 Awst o’r Fflint i Fostyn (10 milltir)
  • 16 Awst o Fostyn i Brestatyn (12 milltir)
  • 17 Awst o Brestatyn i Abergele (10 milltir)
  • 22 Awst o Abergele i Landudno (10 milltir)
  • 23 Awst o Landudno i Lanfairfechan (11 milltir)
  • 24 Awst o Lanfairfechan i Borthaethwy (13 milltir)

'Dysgwch sut y gallwch chi gymryd rhan yma: CAMHS Step By Step/Cam Wrth Gam 


Prifysgol Hywel Dda: Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal digwyddiadau i’ch helpu i ddysgu mwy am y newidiadau arfaethedig i naw gwasanaeth clinigol bregus yr ydym yn eu darparu yn eich cymunedau.

Mae ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol Hywel Dda yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth gofal iechyd sydd angen cymorth fwyaf ac mae’n anelu at fynd i’r afael â bregusrwydd, gwella safonau, neu gwtogi amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.

Cynhelir digwyddiad yn Neuadd Pendre Tywyn ddydd Llun 4 Awst rhwng 3pm a 6pm.

Cewch fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol yma: Digwyddiad Galw Heibio newydd Tywyn ar gyfer Ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
 

Cwrsiau Lefel 2 CFIC Atal a Rheoli Heintiau

Dyfarniad Lefel 2 Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Gweithdrefnau Arbennig
Hyfforddiant ac asesiadau wyneb yn wyneb a ddarperir gan Wasanaeth Diogelu Iechyd BIPBC  |  Darllenwch mwy
Pris y Cwrs - £155 y pen

Dyddiadau cyrsia

Dydd Mawrth Awst 19 2025, 9am i 4:30pm
Ysbyty Bryn Y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan, Conwy  LL33 0HH

Dydd Mawrth Medi 23 2025, 9am i 4:30pm
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug  CH7 1PZ

Dydd Mawrth Hydref 21 2025, 9am i 4:30pm
Ysbyty Bryn Y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan, Conwy  LL33 0HH

Dydd Mawrth Tachwedd 18 2025, 9am i 4:30pm
Public Health Wales Office, Preswylfa, Hendy Road, Mold, CH7 1PZ

Dydd Llun Rhagfyr 8 2025, 9am i 4:30pm
Ysbyty Bryn Y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan, Conwy  LL33 0HH
 

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ac i neilltuo lle, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu Iechyd BIPBC trwy ffonio 03000 840005 neu e-bostio bcu.healthprotection@wales.nhs.uk.
 

Fforwm Ymarferwyr Ymgysylltu

Mae'r fforum hwn ar gyfer 'Practiswyr Ymgysylltu' sy'n gweithio ledled Gogledd Cymru. Rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ymgysylltu a all rannu gwybodaeth ac arferion da, nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio, lleihau dyblygu a rhannu adnoddau. Mae hefyd yn fforwm ar gyfer rhannu heriau cyffredin, gan amlygu pryderon a chefnogi ein gilydd!

Os hoffech chi fod yn rhan o rwydwaith lleol sy'n ymroddedig i ymgysylltu â'r gymuned a rhannu arfer gorau, dewch draw at ein cyfarfod.