Neidio i'r prif gynnwy

Brathiad O Iechyd

Os yw eich sefydliad neu gwmni eisiau cefnogi ei staff i gael cyngor ar iechyd a lles efallai y gallwn ni eich helpu gyda'n menter Brathiad O Iechyd.

Rydym ar hyn o bryd yn cynnig rhaglenni Brathiad O Iechyd yn y gweithle a'r gymuned.

Digwyddiad Nesaf: Cydweithio i wella mynediad at wybodaeth a hyrwyddo Iechyd a Lles ataliol i drigolion sy'n byw yn ac o gwmpas Tref Conwy.

Lleoliad: Eglwys St John's, Stryd Rosehill, CONWY LL32 8LD
Amser: 8 Tachwedd 11am - 2pm
Digwyddiad Galw Heibio Cyhoeddus: Nid oes angen cofrestru

Beth yw Brathiad O Iechyd?

Brathiad O Iechyd yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth gan gynnwys:

  • Gwiriadau pwysedd gwaed
  • Iechyd meddwl a lles
  • Prawf sgrinio Iechyd
  • Rhoi’r gorau i ysmygu
  • Alcohol a Chamddefnyddio Sylweddau
  • Gwybodaeth i ofalwyr
  • Ffordd o fyw actif
  • Bwyta’n iach
  • Diabetes

Pam cymryd rhan mewn rhaglen Brathiad O Iechyd?

Gall y digwyddiadau gefnogi pobl i:

  • Gwella eu hiechyd a'u lles
  • Dynodi cyfleoedd i gymryd camau cyn i broblemau iechyd waethygu, neu drwy atal problemau iechyd rhag digwydd yn y lle cyntaf
  • Siarad â phobl am ei hiechyd ei hunain nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd
  • Darganfod ffyrdd i leihau lefelau iselder a phryder all helpu cyflogwyr i leihau diwrnodau sy'n cael eu colli i salwch

Sut i drefnu digwyddiadau Brathiad O Iechyd 

Os oes gan eich cwmni neu sefydliad ddiddordeb cynnal digwyddiad cysylltwch ag aelod o'r tîm ymgysylltu neu e-bostiwch bcu.bitesizedhealth@wales.nhs.uk.