Arweiniad ar driniaethau COVID-19
Beth ddylech ei wneud os byddwch yn profi'n bositif am COVID-19?
Rhowch wybod am ganlyniadau profion positif COVID-19 yn uniongyrchol i'ch meddyg teulu a fydd yn cynnal asesiad clinigol ac yn rhoi triniaeth os bydd angen.
Pwy sy'n gymwys i dderbyn y triniaethau hyn?
Mae triniaeth ar gyfer COVID-19 ar gael i unigolion nad ydynt yn yr ysbyty ond yr ystyrir eu bod â'r risg uchaf o fod â salwch difrifol a chael eu derbyn i'r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys rhai pobl, ond nid pawb a gafodd eu cynghori i gysgodi yn ystod y pandemig. Mae gan rai pobl a fu'n cysgodi'n flaenorol risg is o lawer erbyn hyn o gael salwch difrifol yn dilyn derbyn brechiad rhag COVID-19.
Os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn triniaeth wrthfeirol ar gyfer COVID-19:
- Pobl sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad organ
- Pobl sydd yng ngham olaf methiant y galon sydd â dyfeisiau cymorth fentriglaidd hirdymor
- Pobl sydd â Syndrom Down an anhwylderau genetig eraill
- Pobl â mathau penodol o ganser a'r rhai sydd wedi derbyn triniaethau canser o fewn y 12 mis diwethaf (cemotherapi, radiotherapi a llawdriniaeth)
- Y rhai sydd â chyflyrau penodol sy'n effeithio ar y gwaed neu'r rhai sydd wedi derbyn trawsblaniad bôn-gelloedd haematolegol
- Pobl sydd â chlefyd y crymangelloedd
- Pobl sydd â chlefyd cronnig yr arennau (SKD) ar gam 4 neu 5 neu drawsblaniad aren
- Unigolion sydd â chyflwr difrifol sy'n effeithio ar yr iau (fel sirosis neu drawsblaniad iau)
- Y rhai a gafodd drawsblaniad organ
- Pobl sydd â chyflyrau awto-imiwn neu lidiol (fel arthritis gwynegol neu glefyd llid y coluddyn) a allai fod yn derbyn rhai meddyginiaethau
- Pobl sydd â chyflyrau sy'n effeithio ar anadlu (gan gynnwys y rhai sydd ag asthma sydd wedi derbyn meddyginiaethau sy'n eu gwneud yn fwy tebygol o ddal heintiau, neu COPD)
- amhariad ar y system imiwnedd oherwydd naill ai cyflwr neu feddyginiaethau penodol
- Pobl sydd â HIV neu AIDS
- Pobl sydd â chyflwr niwrolegol prin (fel sglerosis ymledol, clefyd Huntington, clefyd niwronau motor neu myasthenia gravis)
Ble i gael profion llif unffordd?
Gellir casglu profion llif unffordd o fferyllfeydd cymunedol penodol. Chwiliwch am fferyllfeydd perthnasol yn eich ardal leol chi ar wefan GIG 111 (GIG 111 Cymru - Canlyniadau Chwilio).