Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

27/01/22

Oddi wrth Gill Harris - Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Yr wythnos hon, gwnaethom lwyddo i frechu'r trigolion sy'n gaeth i'r tŷ olaf yng Ngogledd Cymru, gan sicrhau bod 100% o'r bobl fwyaf agored i niwed hynny'n cael eu hamddiffyn rhag COVID-19.

Gan fod mwy na 1.5 miliwn o frechiadau eisoes wedi'u rhoi i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru, a chan fod mwy na 81 y cant o'r rhai sy'n gymwys wedi derbyn eu pigiadau atgyfnerthu bellach, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran amddiffyn ein cymunedau.

Unwaith eto, hoffem ddiolch i bob un o'n staff a'n gwirfoddolwyr sydd wedi'n helpu i gyflwyno rhaglen frechu mor llwyddiannus hyd yma, gan gynnwys yr aelodau hynny o staff o feysydd gwasanaeth eraill sydd wedi rhoi cymorth i ni dros gyfnod prysur y Nadolig.

Brechu plant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol neu sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach

Rydym wedi brechu plant rhwng 5 a 11 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol penodol a'r rhai sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach.

Yr wythnos hon, byddwn yn parhau i gysylltu â phlant sydd â chyflyrau iechyd isorweddol dros y ffôn er mwyn trefnu apwyntiad, nid oes angen cysylltu â'r Bwrdd Iechyd. Lle bo'n bosibl, caiff yr apwyntiadau hyn eu trefnu mewn lleoliad cyfarwydd, fel adran cleifion allanol i blant yn un o'n hysbytai.

Hyd yma, cafwyd ymateb da gan blant yn y garfan rhwng 5 a 11 oed sy'n byw gydag unigolyn sydd â system imiwnedd wannach am y rhan fwyaf o'r wythnos, h.y. pedwar diwrnod ym mhob 7 neu fwy. Gellir gwneud hyn ar adeg cysylltu i drefnu apwyntiad ar gyfer yr aelod o'r cartref sydd â system imiwnedd wannach, neu drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein y byddwn yn ei dilysu a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.

Os bydd unrhyw un yn tybio bod eu plentyn mewn grŵp risg glinigol ac nad oes neb wedi cysylltu â nhw, gallant adael eu manylion gyda'n Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 er mwyn i ni wirio'r cymhwyster hwnnw.

Pigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed

Mae'r holl blant rhwng 16 a 17 oed bellach yn derbyn dosiau atgyfnerthu o'r brechlyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan JCVI.

Dylid cynnig y dos atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis  ar ôl cwblhau'r cwrs cychwynnol.

Gall dosiau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.

Ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed

Rydym bellach yn cynnig ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.

Gall dosiau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.

Llythyr i ferched beichiog

Unwaith eto, rydym yn apelio at ferched beichiog i ddod atom i dderbyn eu brechlyn rhag COVID-19. I unrhyw ddarpar fam, mae derbyn eu dos cyntaf, ail ddos a'u dos atgyfnerthu o'r brechlyn rhag COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u baban heb ei eni rhag y coronafeirws ac, yn benodol rhag amrywiolyn newydd Omicron.

Yn seiliedig ar y data'n ymwneud â diogelwch, ynghyd â risg gynyddol COVID-19, mae JCVI wedi cynghori y dylai merched beichiog gael eu hystyried yn grŵp risg glinigol.

Rydym yn annog yr holl famau'n gryf i fynd i un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu i drefnu apwyntiad ar-lein.

Trydydd dosiau a phigiadau atgyfnerthu ar gyfer y rhai sydd â system imiwnedd wannach

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi'n flaenorol y dylai unigolion sydd â system imiwnedd wannach dderbyn trydydd dos cychwynnol o'r brechiad.

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chlinigwyr i ganfod unigolion perthnasol ac i benderfynu pa un a oes angen i drydydd dos neu ddos atgyfnerthu gael ei roi ar adeg benodol o fewn eu cylchoedd triniaeth, neu p'un a oes angen peri oedi i feddyginiaeth er mwyn sicrhau'r adwaith imiwnaidd mwyaf positif i'r brechlyn.

Nid oes angen i’r rhan fwyaf o'r rhai a restrir adeg benodol i dderbyn eu pigiad a byddant yn derbyn llythyr apwyntiad ar gyfer eu trydydd dos cychwynnol.

Os ydynt eisoes wedi derbyn pigiad atgyfnerthu, caiff hyn ei ddiwygio ar eu cofnod i drydydd dos cychwynnol a chânt eu gwahodd ar gyfer pigiad atgyfnerthu o leiaf 3 mis yn ddiweddarach.

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n clinigwyr i wahodd y rhai y mae arnynt angen adeg benodol yn seiliedig ar eu hamserlen triniaeth a/neu feddyginiaeth.

Dewch atom i dderbyn eich pigiad heddiw - peidiwch ag oedi ymhellach

Mae croeso bob amser i chi newid eich meddwl i ddod atom ac i gael eich brechu, mae'r staff yn dal i fod ar waith gennym ac mae brechlynnau ar gael i bobl nad ydynt wedi derbyn eu dos cyntaf, ail ddos, trydydd dos neu bigiad atgyfnerthu. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn amddiffyn chi'ch hun, eich teuluoedd a gwasanaethau'r GIG rhag COVID-19 felly byddem yn annog pobl i drefnu eu hapwyntiadau cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn gymwys i dderbyn eich dos cyntaf, eich ail ddos neu'ch pigiad atgyfnerthu, gallwch fynd i un o'n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.