Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn cysylltu â chi tra byddwch chi'n aros am eich apwyntiad

Os ydych chi'n aros am apwyntiad claf allanol ar hyn o bryd, mae'n bosibl y byddwch yn cael neges destun gennym ni yn y dyfodol agos yn rhoi gwahoddiad i chi ymuno â sgwrs rithwir. Rydym ni'n cysylltu â rhai cleifion i gadarnhau a oes angen apwyntiad arnyn nhw o hyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddiweddaru ein rhestrau aros. 

I bwy mae hyn yn berthnasol? 

Rydym yn dechrau gyda chleifion ar restrau aros trawma ac orthopedeg, gan ehangu i wasanaethau eraill yn ystod y misoedd nesaf. 

Pam ydym ni'n cysylltu â chi? 

Mae timau yn yr ysbytai yn gwirio eu rhestrau aros yn rheolaidd i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol. 

Efallai bod rhai cleifion: 

  • Wedi cael triniaeth yn rhywle arall 
  • Wedi symud i ardal wahanol 
  • Yn teimlo nad oes angen eu hapwyntiad mwyach 

Drwy gysylltu â chi'n uniongyrchol, gallwn: 

  • Wneud yn siŵr eich bod yn dal i aros i gael eich gweld 
  • Lleihau'r nifer sy'n colli apwyntiadau ac oedi mewn clinigau 
  • Helpu cleifion i gael y gofal cywir, ar yr amser cywir 

Beth sydd angen i mi ei wneud? 

Os ydych chi'n un o'r cleifion y byddwn ni'n cysylltu â nhw, byddwch yn derbyn neges destun â dolen ddiogel. Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen, bydd sgwrs fer ar-lein yn agor. 

Byddwn yn gofyn i chi: 

  • Gadarnhau pwy ydych chi gan ddefnyddio manylion syml 
  • Ateb rhai cwestiynau syml ynghylch a oes angen eich apwyntiad o hyd 
  • Darllen gwybodaeth ddefnyddiol am reoli eich iechyd tra byddwch chi'n aros 

Mae'r sgwrs hon yn un awtomataidd ac nid yw'n cael ei monitro gan staff. Os hoffech chi siarad â rhywun, byddwn yn rhoi'r manylion cyswllt yn ystod y sgwrs ac maen nhw ar ein gwefan hefyd. 

Enghraifft o sgwrs rithwir

Dyma rai enghreifftiau o'r sgwrs:

  • Enghraifft o sgwrs gyda chynorthwyydd rhithwir

Beth fydd yn digwydd nesaf? 

  • Os bydd angen eich apwyntiad o hyd, byddwn yn eich cadw ar y rhestr aros ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael 
  • Os byddwch chi'n dweud wrthym ni nad oes angen yr apwyntiad arnoch, byddwn yn tynnu eich enw oddi ar y rhestr ac yn anfon neges ysgrifenedig atoch i gadarnhau hynny. 
  • Os yw eich tîm clinigol yn credu y dylech aros ar y rhestr, byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn. 

Ni fyddwn yn gallu rhoi union ddyddiad ar gyfer eich apwyntiad, ond byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn gynnig apwyntiad i chi. 

Pa mor hir fyddwch chi'n aros? 

  • Yn anffodus, ni allwn roi amcangyfrif i chi am bryd y byddwch chi’n clywed gennym ni i drefnu apwyntiad, ond gallwn eich sicrhau y byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am amseroedd aros ar wefan GIG 111 Cymru drwy ddewis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o'r rhestr. 

Cymorth tra byddwch chi'n aros 

Rydym ni'n deall bod aros yn gallu bod yn anodd. Mae ein hwb hunanofal wrth i chi baratoi ar gyfer eich triniaeth yn cynnwys: 

Os ydych chi mewn argyfwng neu fod angen cymorth brys, cysylltwch â'r gwasanaethau brys neu'ch meddyg teulu ar unwaith.